Mae’r Urdd yn lansio rhaglen o gyrsiau a chymwysterau gall helpu ieuenctid Cymru ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y byd gwaith.
Mae UrddSgilio yn addas i unrhyw un sydd eisiau:
- gwella sgiliau rhifedd / cyfathrebu / digidol
- profiad yn y sector chwaraeon
- gwella’r sgiliau a fydd yn eich helpu i gael swydd
Er mwyn profi UrddSgilio, rydym yn cynnig cyfres o sesiynau blasu sy’n rhoi syniad o beth i’w ddisgwyl wrth gwblhau ein cyrsiau, pob un yn Gymraeg. Maent yn sesiynau rhithiol bydd yn para tua 30 munud ar gyfer unrhyw un rhwng 16 a 25 oed, ac yn rhad ac am ddim.
Pa sesiynau blasu sydd ar gael?
Rhifedd – Chwefror 14 am 4:30yh
Sesiwn sy’n dangos sut i gymharu contractau ffonau symudol er mwyn gallu gwneud y dewis gorau.
Chwaraeon – Chwefror 16 am 4:30yh
Sesiwn sy’n dangos sut i ddelio ag agwedd a chyfrifoldebau fel arweinydd chwaraeon.
Cyfathrebu – Chwefror 21 am 4:30yh
Sesiwn sy’n dangos ambell dechneg perswadio i’w ddefnyddio ar lafar o ddydd i ddydd ac yn y gweithle.
Cyflogadwyedd – Chwefror 23 am 4:30yh
Sesiwn sy’n dangos sut i strwythuro CV a’i addasu yn ôl gofynion y swydd.
Llythrennedd Digidol – Chwefror 28 am 4:30yh
Sesiwn sy’n dangos sut i ddefnyddio technegau creadigol i ddenu sylw wrth gwblhau tasgau’n ddigidol.
Bydd modd dewis gwneud cymwysterau er mwyn cael tystysgrif a’r profiad llawn neu gwblhau yr unedau bydd yn cynnig y budd mwyaf. Bydd tiwtoriaid profiadol Adran Prentisiaethau’r Urdd ar gael i gynnig pob cymorth bydd ei angen er mwyn cwblhau’r cyrsiau.
Mwy o wybodaeth a manylion cofrestru yma: Sesiynau Blasu | Urdd Gobaith Cymru
E-bost: prentisiaeth@urdd.org