Mae Llywodraeth Cymru yn hysbysebu hyd at 50 o gyfleoedd prentisiaeth ym mis Mawrth. Y flwyddyn hon rydym yn cynnig tri llwybr gwahanol, gyda phob un yn arwain at gymhwyster NVQ lefel 3.
- Gweinyddiaeth Busnes
- Data Digidol a Thechnoleg
- Cyllid
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan y rhai sydd heb eu cynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu, megis pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl.
Dewch draw i’n sesiynau Gwybodaeth i Ymgeiswyr Rhithwir i gael gwybod mwy am y gwahanol lwybrau sydd ar gael, y broses ymgeisio a’r cymorth a fydd ar gael i ymgeiswyr. Bydd hyn yn cynnwys sut y gallwn ddileu unrhyw rwystrau a allai atal pobl rhag gwneud cais a sut y gallwn wneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod y broses recriwtio yn deg ac yn hygyrch i chi.
15 Mawrth 2022 11:00 – 12:00 Candidate Information Session – Apprenticeships 2022 Tickets, Tue 15 Mar 2022 at 11:00 | Eventbrite
5 Ebrill 2022 14:00 –15:00 Candidate Information Session – Apprenticeships 2022 Tickets, Tue 5 Apr 2022 at 14:00 | Eventbrite
12 Ebrill 2022 11:00 – 12:00 Candidate Information Session – Apprenticeships 2022 Tickets, Tue 12 Apr 2022 at 11:00 | Eventbrite
Mae ein Tîm Digidol yn cynnal sesiynau penodol am y cynllun Digidol, Data a Thechnoleg ar
- 17 Mawrth 2022 16:00 –17:00
- 11 Ebrill 2022 11:00 –12:00
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y cynllun DDaT, anfonwch e-bost at [email protected] i gofrestru ar gyfer y sesiynau uchod.
Os nad ydych yn medru mynychu unrhyw u’n o’r digwyddiadau hyn ond mae gennych gwestiynau ynglyn a’r cynllun, cysylltwch ag [email protected]