Mae gan Sefydliad Cymunedol Cymru nifer o gyfleoedd ariannu ar hyn o bryd.
Cronfa i Gymru
Cronfa waddol gymunedol genedlaethol yw Cronfa i Gymru sy’n cael ei rheoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Mae’n hyrwyddiad dyngarol ac yn rhaglen creu grantiau sy’n codi arian oddi wrth bobl a sefydliadau ledled Cymru, y DU a thramor sydd eisiau ‘rhoi’n ôl’ er mwyn cefnogi a chryfhau cymunedau lleol: mae Cronfa i Gymru’n cysylltu pobl sydd ag ots gydag achosion sy’n cyfrif.
Dyfernir grantiau rhwng £500 a £2,000 i sefydliadau cymunedol bach sy’n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr y mae eu ceisiadau yn cynnwys y nod o ddarparu’r canlyniadau canlynol:
- Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd
- Adeiladu cymunedau cryfach
- Gwella amgylcheddau gwledig a threfol
- Annog pobl a chymunedau iachach a mwy gweithgar
- Diogelu treftadaeth a diwylliant
Gall grantiau cwmpasu costau llawn neu ran o gostau, er enghraifft: costau prosiect, eitemau a chyfarpar cyfalaf bach, costau craidd, gweithgareddau a rhaglenni (e.e. llogi ystafell, costau teithio, treuliau gwirfoddolwyr, yswiriant, ffioedd tiwtor, digwyddiadau cymunedol).
Cronfa Cymru gyfan yw Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’ Principality a sefydlwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu’r Principality gyda’r nod o ddylanwadu’n bositif ar gymdeithas ac ar fywydau pobl ifanc yng Nghymru.
Does dim dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ac mae’r gronfa ar agor drwy’r flwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: Cronfa i Gymru
Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality
Bydd y gronfa’n cefnogi’r trydydd sector a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i helpu / annog
- Mwy o bobl ifanc i ddatblygu arferion cynilo positif i lwyddo i gyrraedd eu nodau mewn bywyd a chymryd y penderfyniadau iawn ar gyfer eu dyfodol
- Mwy o bobl ifanc i adeiladu cadernid ariannol ar gyfer ansicrwydd bywyd
- Mwy i bobl ifanc yn paratoi ar gyfer y dyfodol a byd gwaith (gan gynnwys meithrin sgiliau)
- Mwy o bobl ifanc yn cael gwaith
- Mwy o bobl ifanc yn byw’n gynaliadwy ac yn cael atebion cynaliadwy i heriau lleol
Bydd grantiau o hyd at £5,000 yn cael eu dyfarnu i sefydliadau’r trydydd sector, i gefnogi pobl ifanc o dan 40 mlwydd oed yng Nghymru.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ffurflen gais ar-lein erbyn 12yp ar ddydd Iau, 30ain Mehefin 2022. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality
Cronfa Cymorth Adfer COVID 19 ar gyfer Grwpiau Cymunedol BAME yng Nghymru
Mae corff cynyddol o ddata, gan gynnwys data gan ONS yn dangos bod y pandemig coronafeirws wedi effeithio’n anghymesur ar bobl sy’n grwpiau Du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig (BAME). Mae sefydliadau a arweinir gan BAME wedi chwarae rhan ganolog o hyd o ran sicrhau bod cymorth brys hanfodol yn cyrraedd y rheini o’r cymunedau hyn sydd wedi’u taro’n galed. Crëwyd y gronfa hon i gefnogi’r sefydliadau hynny sy’n cael eu harwain gan deuluoedd a chymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ledled Cymru i wella ar ôl y pandemig coronafeirws.
*Noder ein bod yn diffinio sefydliad a arweinir gan BAME o dan y telerau canlynol a gyhoeddwyd gan y Gynghrair Cyllidwyr Cydraddoldeb Hiliol:
- Cenhadaeth a phwrpas y sefydliad yw bod o fudd i gymunedau BAME.
- Mae’r rhan fwyaf o’r arweinyddiaeth (h.y. o leiaf hanner yr uwch dîm a bwrdd yr Ymddiriedolwyr) yn dod o’r gymuned(au) BAME y mae’n eu gwasanaethu
Mae grantiau rhwng £2,000 a £5,000 ar gael i’w dyfarnu i sefydliadau cymunedol BAME* sydd ag incwm oddeutu £25,000 yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf a gofnodwyd.
Mae’r gronfa hon yn agored i geisiadau tan 12yp ar ddydd Mercher, 8fed Mehefin 2022. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: Cronfa Cymorth Adfer COVID 19 ar gyfer Grwpiau Cymunedol BAME.
Cysylltwch â Chyngor Trydydd Sector Caerdydd ar 029 2048 5722 neu enquiries@c3sc.org.uk os oes angen cymorth arnoch i gwblhau eich ceisiadau.