Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd wedi comisiynu Richard Newton Consulting i gynorthwyo gyda datblygu Strategaeth Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol a Chymdeithasol, sydd i’w chyd-gynhyrchu gyda chyfranogaeth gan amrediad eang y sector sy’n gweithredu yng Nghaerdydd. Bwriedir i’r Strategaeth gryfhau rôl y sector MGCCh wrth ddarparu datrysiadau i heriau’r Ddinas a chefnogi trafodaethau i’r dyfodol ynghylch sut a pham y dylai’r sector cyhoeddus weithio gydag a buddsoddi yn y sector.
Rydym am i’r strategaeth fod yn berchen i sector gwirfoddol Caerdydd, a sicrhau bod pob un o sefydliadau’r sector gwirfoddol (yn cynnwys grwpiau heb eu cofrestru, mentrau cymdeithasol, SBC, CBC, elusennau a grwpiau perthnasol eraill) yn cael cyfle llawn i gyfranogi.
Rydym yn anelu i gyhoeddi’r strategaeth ddrafft ym mis Ebrill 2022, a bydd diweddariadau ar gael yma: http://www.richard-newton.co.uk/c3scvcsecym
Mae ein holiadur i hysbysu’r gwaith hwn yn dal i fod ar agor yma: https://www.surveymonkey.co.uk/r/V2KX8HK
Yn dilyn ein cyfres gyntaf o Grwpiau Ffocws, rydym wedi dynodi nifer o themâu yr ydym am eu harchwilio mewn cyfres o grwpiau ffocws â thema benodol. Byddem yn falch iawn i glywed eich barn, felly cofrestrwch ar gyfer y grwpiau ffocws perthnasol trwy’r dolenni priodol. Os na allwch fynychu ar y dyddiad penodol ond yr hoffech sgwrs, cysylltwch â ni trwy [email protected]
- “Gwneud pethau’n wahanol” 4ydd Mawrth 10.30am – dros Zoom – Mae llawer o sefydliadau’r sector gwirfoddol yng Nghaerdydd yn gweithio gyda sefydliadau sector cyhoeddus trwy drefniadau cyllido ac atgyfeiriadau at wasanaethau. Beth arall allai sefydliadau’r sector cyhoeddus ei wneud yn wahanol fyddai’n cefnogi datblygiad sector gwirfoddol cryf yng Nghaerdydd?
- “Sgwrsio am faint” 7fed Mawrth 10.30am – dros Zoom – Mae nifer fechan o sefydliadau sector cyhoeddus yn gweithredu yng Nghaerdydd. Mae gan rai gyfrifoldeb penodol am Gaerdydd h.y. yr awdurdod lleol; tra bo gan eraill (h.y. Heddlu De Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) ardal cyfrifoldeb ehangach. Mae sector gwirfoddol Caerdydd yn cynnwys miloedd o sefydliadau. Mae’r sefydliadau hyn yn amrywio o sefydliadau bychain gaiff eu harwain gan wirfoddolwyr sy’n gweithio gyda chymunedau bychain penodol, i fyny i sefydliadau mawr sy’n gweithio ar draws y DU. Sut allwn ni greu cysylltiadau rhwng y ddau sector sy’n effeithlon, sy’n deg ac sy’n effeithiol? A ddylai’r sector gwirfoddol weithio mewn partneriaeth yn amlach; neu a ddylai’r sector cyhoeddus gydnabod amrywiaeth maint sefydliadau gwirfoddol?
- “Gwerth y Sector Gwirfoddol” 7fed Mawrth 1pm – dros Zoom – Ydi’r sector cyhoeddus yng Nghaerdydd yn llwyr ddeall gwerth y sector gwirfoddol? Ydyn nhw’n deall maint yr hyn a gyflenwir; gwerth gwirfoddoli; y lefel cyllid dyngarol gaiff ei sicrhau a phwysigrwydd cysyniadau megis profiad personol; a’r rôl y mae’r sector yn ei chwarae wrth atal gwaethygiad i broblemau tymor hir? Sut allwn ni sicrhau dealltwriaeth am werth ac ehangder gwaith y sector gwirfoddol ar draws y sector cyhoeddus?
- “Cyllido” 7fed Mawrth – 3pm – dros Zoom – Mae’r sector cyhoeddus yng Nghaerdydd yn cyllido’r sector gwirfoddol trwy grantiau a gwasanaethau a gomisiynir; ac er bod y cyllid hwn yn werthfawr, mae’r model darparu’n creu heriau i lawer. Sut allwn ni ddatrys materion o bwys yn cynnwys cydbwyso sefydlogrwydd cyllido tymor hir gyda thymhorau cyllidebau’r sector cyhoeddus? Yn ogystal, sut allwn ni sicrhau bod cyfleoedd cyllido’n hygyrch i bawb ac mewn amgylchedd gaiff ei ddominyddu gan ariannu seiliedig ar brosiectau, sut allwn ni sicrhau bod gan y sector gwirfoddol y capasiti ariannol i ddatblygu a gwarchod ei hun rhag risgiau?
- “Effaith a deilliannau” – 8fed Mawrth – 9.30am – dros Zoom – Mae’n ffaith bod buddsoddiad gan y sector cyhoeddus yn galw am lefel o adrodd yn ôl gan y sefydliadau a gefnogir. Yn aml, bydd hyn ar ffurf feintiol ac yn aml mae diffyg synergedd rhwng y dulliau angenrheidiol, ac nid dim ond rhwng cyrff cyhoeddus ond rhwng adrannau o fewn corff cyhoeddus. Yn aml, mae dulliau ar gyfer mesur effaith yn rhai tymor byr a gallant fod yn anghymesur i’r cyllid a dderbyniwyd. A oes modd gwella hyn? All y sector yng Nghaerdydd gynnig dulliau cyfunol i fesur effaith? Sut allwn ni fesur y llu o ddeilliannau ‘meddal’ gaiff eu trosglwyddo gan y sector?
- “Cynrychiolaeth” 8fed Mawrth – 12.30pm – dros Zoom – Mae cyrff cyhoeddus sy’n gweithredu yng Nghaerdydd yn trosglwyddo’n unol â nifer o strategaethau, yn amrywio o gynlluniau corfforaethol cyrff unigol, amcanion cyffredin trwy fforymau megis y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol; a blaenoriaethau mwy pellgyrhaeddol y llywodraeth. Ydyn ni fel sector gwirfoddol sy’n gweithredu yng Nghaerdydd yn deall y blaenoriaethau hyn yn llawn, allwn ni gyfleu sut mae ein gwaith yn cyfrannu at y blaenoriaethau hyn, oes angen inni allu gwneud hyn? Wrth i’r strategaethau hyn gael eu datblygu, faint o gynrychiolaeth sydd gan y sector gwirfoddol yn eu datblygiad, a sut mae’r strategaethau hyn yn galluogi’r sector gwirfoddol i gyrraedd ei lawn botensial?
- “Cyfathrebu a Chynllunio” 8fed Mawrth – 3pm – dros Zoom – Tra bod strategaethau’n aml yn datgan ymrwymiadau am bwysigrwydd y sector gwirfoddol, sut mae hyn yn cael ei sicrhau’n ystod y cyfnod cynllunio a pha mor dda mae’r ddau sector yn cyfathrebu gyda’i gilydd ar sail weithredol? Sut ellir gwella hyn er mwyn i’r ddau fod yn bartneriaid cydradd?
- “Ydi Bach yn Berffaith?” 22ain Mawrth – 11am – dros Zoom – Mae dros hanner y sefydliadau sector gwirfoddol yng Nghymru’n derbyn incwm o lai na £10,000 y flwyddyn. Yn aml, bydd y sefydliadau hyn yn trosglwyddo deilliannau sylweddol o ran llesiant, ond ’does ganddynt fawr o gapasiti i ymwneud â thymhorau cyllido a chynllunio. Sut allwn ni sicrhau bod y sefydliadau hyn yn cael eu cynnwys yn llawn mewn unrhyw strategaeth arfaethedig i oruchwylio perthnasau rhwng y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol?
- “Cryfhau ein Hamrywiaeth” 22ain Mawrth – 3pm – dros Zoom Mae’r sector gwirfoddol yng Nghaerdydd yn helpu i gynnal amrywiaeth y Ddinas. A ydi’r rôl bwysig hon o ddathlu a datblygu amrywiaeth y Ddinas yn cael ei ddeall yn llawn gan y sector cyhoeddus, a sut all y ddwy sector weithio’n agosach gyda’i gilydd i gefnogi amgylchedd sy’n hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth?