Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym o’r farn fod gan ein holl aelodau, partneriaid, ymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr hawl i barch cydradd ac i weithio mewn amgylchedd croesawgar a diogel, heb fygythiad.

Datganiad Cydraddoldeb ac Amrywiaeth C3SC

Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd yn falch o fod yn rhan o gymdeithas amrywiol ac mae’n ymdrechu i fod yn sefydliad cynhwysol lle caiff gwahaniaethau unigol eu derbyn a’u gwerthfawrogi, a lle gall pob cymuned gyflawni ei photensial.

Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd yn gwrthwynebu pob math o ymddygiad gwahaniaethol.

Rydym o’r farn fod gan ein holl aelodau, partneriaid, ymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr hawl i barch cydradd ac i weithio mewn amgylchedd croesawgar a diogel, heb fygythiad.

Bydd unrhyw gwynion o wahaniaethu neu aflonyddu yn cael eu trin o ddifrif a’u hymchwilio’n llawn, a bydd unrhyw gamau priodol yn cael eu cymryd gan Gyngor Trydydd Sector Caerdydd a’i swyddogion.

Cred C3SC fod datblygu ei Gydraddoldeb a’i Amrywiaeth yn bwysig. Mae C3SC yn gweithio tuag at gael ei achredu gyda Buddsoddwyr mewn Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Deyrnas Unedig (UKIED).

Mynnwch Ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Gellir cael copi o Amcanion a Chynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb C3SC 2015-17 yma, neu drwy ffonio (029) 2048 5722.

Skip to content