Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar beth yw prosiect gwirfoddoli o ansawdd uchel, o ble gall mudiadau gael gafael ar gymorth pellach a’r hyn y bydd aseswyr yn edrych amdano mewn ceisiadau i Grantiau Gwirfoddoli Cymru. Byddwn yn ymdrin â:
- Gwirfoddoli yng Nghymru – arferion da ac adnoddau sydd ar gael
- Awgrymiadau ac arweiniad ar bob cwestiwn o’r cais VWG
- Dyfarniad ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV)
- Sut gall Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) gefnogi eich mudiad a’r sector ehangach
- Adolygu eich polisi gwirfoddoli
Ynglŷn â’r digwyddiad hwn
Mae Gwirfoddoli Cymru yn ymwneud â’r ‘…math o wlad rydyn ni am fod’.
Mae Prif Grant Gwirfoddoli Cymru (VWMG) 2022/25 yn derbyn ceisiadau nawr! Dyma’r nodau ar gyfer y flwyddyn hon:
- Cynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy’n cymryd rhan a’u cadw drwy chwalu’r rhwystrau i wirfoddoli i bobl o bob oed ac o bob rhan o’r gymdeithas.
- Cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli cadarnhaol o ansawdd uchel sy’n ceisio recriwtio, cynorthwyo a hyfforddi gwirfoddolwyr.
- Hyrwyddo newidiadau yn y mudiadau a fydd yn cael budd er mwyn gwneud gwirfoddoli’n rhan o’u diwylliant, ee ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr.
Gall mudiadau wneud cais am ddyfarniadau o hyd at ddwy flynedd gan ofyn am uchafswm o £25,000 bob blwyddyn.
Mae CGGC eisiau sicrhau bod gan fudiadau’r adnoddau a’r arweiniad i gynnig profiadau gwirfoddoli o ansawdd sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Bydd y digwyddiad hwn nid yn unig yn rhoi awgrymiadau ar y cais ei hun, ond bydd yn dangos sut y gallai eich gwaith ffitio i mewn i’r strategaeth wirfoddoli ehangach ledled Cymru. Bydd yn rhoi cyngor i chi ar sut y gall VWG greu etifeddiaeth o ddiwylliant gwirfoddoli o fewn eich mudiad a’ch cymunedau gan gynnwys gwybodaeth am nod ansawdd Buddsoddwyr Mewn Gwirfoddolwyr.
Amser A Dyddiad
- 14:00 – 16:00 Dydd Mawrth 26 Ebrill 2022
For more information and to join this event please visit: Volunteering Wales Main Grant information session Tickets, Tue 26 Apr 2022 at 14:00 | Eventbrite