Mae Comisiynydd y Gymraeg yn awyddus i glywed am eich profiadau chi o ran cael cyfarfodydd yn ymwneud â lles gyda’ch Cyngor Sir lleol. Yn benodol, y gwahoddiad a defnydd o’r Gymraeg mewn cyfarfodydd gwasanaethau addysg, gofal cymdeithasol, tai neu gynllunio. Er mwyn cael darlun cenedlaethol o’r sefyllfa ac i wella’r gwasanaeth Cymraeg, cysylltwch â ni. Wedyn mi drefnwn gyfweliad ffôn neu ar-lein hefo chi.
Cynhelir yr arolwg hwn gan Ymgynghoriaeth DBR ar ran Comisiynydd y Gymraeg. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Dylan Bryn Roberts. Dylanbryn@yahoo.co.uk – 07989393445