Mae Rhaglen Lywodraethu ddiwygiedig Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhoeddi heddiw. Mae’n diwygio’r Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd ym mis Mehefin i adlewyrchu’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach sy’n fwy tosturiol. Bydd egwyddorion cynhwysiant, cydweithio a chyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd ein gwaith bob amser. Byddwn yn cydnabod amrywiaeth y safbwyntiau a phrofiadau yng Nghymru ac yn eu dathlu. Wrth inni fynd i’r afael â’r heriau presennol – heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen – sy’n cynnwys yr ymateb parhaus i’r pandemig, rydym yn parhau’n ymroddedig i wneud hynny gan gydweithio â chi ac yn unol ag ysbryd partneriaeth gymdeithasol.
Mae ein hamcanion llesiant wedi cael eu cadw, ac mae ein camau gweithredu i gyflawni’r amcanion hynny wedi cael eu cryfhau mewn nifer o feysydd gan y Cytundeb Cydweithio.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod ein harbenigedd a’n gallu ar y cyd yn cael eu defnyddio i wella bywydau pobl yng Nghymru, yn awr ac yn y dyfodol.
This post is available in English by clicking here.