Her Driphlyg
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad sydd yn amlygu sut bydd effeithiau cyfunol Brexit, COVID-19 a Newid Hinsawdd yn cael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar iechyd a llesiant y boblogaeth. Yn ystod 2022, byddwn yn canolbwyntio ar y materion hyn trwy ein cyfres o weminarau ac e-fwletinau, yn benodol sut mae’r materion hyn yn effeithio ar anghydraddoldebau presennol yng Nghymru a’r hyn y gellir ei wneud i leihau’r effeithiau hyn.
Gan ein bod yn dal mewn cyfnod o ansicrwydd gydag argyfwng amrywiolion newydd, bydd e-fwletin mis Ionawr yn canolbwyntio ar COVID-19, a byddem yn croesawu erthyglau ar fentrau cenedlaethol, rhanbarthol neu leol sydd yn canolbwyntio ar leihau effeithiau parhaus y pandemig ar iechyd, cydnerthedd a llesiant. Pethau i’w hystyried wrth anfon eich erthygl atom ni:- Uchafswm o 500 o eiriau
- Anfonwch y testun atom mewn dogfen Word os gwelwch yn dda
- Cofiwch gynnwys unrhyw ddelweddau neu luniau mewn jpg neu eps ar wahân
- Mae angen i unrhyw ddelweddau y byddwch yn eu hanfon atom gael yr hawlfraint cywir
Anfonwch erthyglau i [email protected] erbyn 21 Ionawr 2022.
This post is also available in English by clicking here.