Mae swyddi Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd a chwe Aelod Anweithredol ar gyfer Corff Llais y Dinesydd wedi’u hysbysebu. Mae’r manylion ar gael yn: Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Penodi Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd a Chwe Aelod Anweithredol – Llywodraeth Cymru (tal.net)
O fis Ebrill 2023 ymlaen, bydd Corff Llais y Dinesydd yn darparu un corff annibynnol i geisio barn a chynrychioli buddiannau’r cyhoedd, ledled Cymru, mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r swyddi hyn, a fydd yn dechrau o fis Ebrill 2022 ymlaen, yn cynnig cyfleoedd unigryw a chyffrous i ddarparu arweinyddiaeth yn y gwaith o lunio’r corff newydd hwn a fydd yn gweithio’n agos gyda’r GIG, awdurdodau lleol ac eraill i gefnogi gwelliant parhaus gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Bydd y cyfnod ymgeisio yn cau am 4pm ddydd Mawrth 1 Chwefror 2022.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dwy sesiwn wybodaeth i gyflwyno Corff Llais y Dinesydd a rolau, cyfrifoldebau a rhinweddau aelodau o’i Fwrdd. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau am y corff newydd a’r broses ymgeisio.
Cynhelir y sesiynau drwy MS Teams ddydd Iau 13 Ionawr (1 – 2pm) a dydd Llun 17 Ionawr (2 – 3pm). Os hoffech ymuno, rhowch wybod inni drwy e-bostio GwybodaethCLlD@llyw.cymru, gan nodi pa ddyddiad fyddai orau gennych.