Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhanbarth yng Nghymru baratoi a chyhoeddi Asesiad Anghenion Poblogaeth bob pum mlynedd. Bydd yr asesiad yn canolbwyntio ar ennill dealltwriaeth fanylach o’r anghenion am ofal a chymorth ymhlith gwahanol grwpiau o bobl yn y boblogaeth, a bydd yn helpu i wella’r ystod o wasanaethau gofal a chymorth sydd gennym nawr, ac yn cynllunio ar gyfer yr hyn y bydd ei angen arnom yn y blynyddoedd i ddod.
Cyhoeddir yr Asesiad Anghenion Poblogaeth nesaf ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, a bydd Cyngor Trydydd Sector Caerdydd, a ariennir gan y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol ac sy’n gweithio ar y cyd â Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg, yn arwain ar ymgysylltu â dinasyddion i nodi’r anghenion gofal a chymorth allweddol ar gyfer pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael cyfle i gyfrannu at yr asesiad a helpu i lunio gwasanaethau gofal a chymorth cyfredol ac yn y dyfodol.
Rydym yn awyddus i wahodd gwasanaethau gwirfoddol a chymunedol i sicrhau bod eich defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr yn cymryd rhan. Yn benodol, rydym yn edrych am grwpiau a mudiadau trydydd sector a all ymgysylltu â phobl ar draws gwahanol grwpiau poblogaeth i gynnal grwpiau ffocws a/neu hyrwyddo ein holiadur ar-lein.
Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb gan fudiadau trydydd sector ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Rydym yn gweithio o fewn terfynau amser tynn, a byddwn yn gallu darparu cyllid o hyd at £550 y sesiwn i gefnogi grwpiau a mudiadau trydydd sector yn y rhanbarth gyda’r gost o drefnu a chynnal sesiynau ymgysylltu. Bydd angen cwblhau’r holl weithgareddau ymgysylltu a chyflwyno gwybodaeth i ni erbyn 12 hanner dydd ddydd Gwener 22 Hydref 2021 fan bellaf.
I gymryd rhan, cwblhewch y ffurflen isod a’i dychwelyd i enquiries@c3sc.org.uk – gan roi “Asesiad anghenion poblogaeth – Datganiad o ddiddordeb” yn y llinell bwnc, neu fel arall cwblhewch y ffurflen ar-lein yma erbyn 5pm, ddydd Mawrth 21 Medi 2021. I ofyn am ffurflen yn Gymraeg, gofynion eraill neu drafod y cyfle hwn ymhellach, e-bostiwch Anna yn anna.r@c3sc.org.uk
I lawrlwytho’r ffurflen ewch i – Expression of Interest form – Population Needs Assessment (Welsh).docx