Efallai eich bod wedi bod yn ymwybodol mai’r dyddiad cau ceisiadau ar gyfer ceisiadau i’r cynllun Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE oedd y 30ain o Fehefin 2021.
Mae Cyngor ar Bopeth CYmru wedi cael ei ariannu i gefnogi cleientiaid ar draws Cymru gyda cheisiadau a gwasnaethau cynghori cysylltiedig, ac mae Llywodraeth Cymru wedi estyn y gwasanaeth hwn tan 31 Mawrth 2022 gan y bydd swm o achosion yn parhau lle mae angen cefnogaeth ar bobl gyda’i ceisiadau a materion cynghori ehangach.
Roeddwn am gymryd y cyfle i’ch cynghori bod dal cyfle i unigolion a’u teuluoedd i geisio i’r cynllun er iddynt golli’r dyddiad cau.
Yn gyntaf, i’r rheiny a geisiodd i’r cynllun cyn 30 Mehefin ond lle mae eu ceisiadau heb gael eu penderfynu, bydd eu hawliau presenol wedi’u hamddiffyn yn dibynnu ar ganlyniad eu ceisiadau. Yn cynnwys mynediad ar waith, astudio ac i ddefnyddio’r GIG.
Mae’r Cynllun hefyd wedi darparu ar gyfer ceisiadau hwyr gan wladolion yr UE/AEE a’r Swisdir a’u teulu a all ddangos sail rhesymol am golli’r dyddiad cau naill ai am rhesymau ‘ymarferol’ neu ‘dosturiol’.
Rhaid i wladolion yr UE a gyrhaeddodd cyn 31 Rhagfyr 2020 sydd heb geisio eto, wneud hynny ar frys. Mae’n bosib fod unigolion o fewn eich casgliad chi o gleientiaid sydd heb eto geisio i’r Cynllun ac sy’n gymwys i wneud hynny, a byddwn yn eich annog i rannu’r neges hwn er mwyn eu hannog i wneud hynny ac y gallant gael cefnogaeth ein gwasanaethau i wneud hynny. Bydd hawliau’r rheiny sydd wedi ceisio yn hwyr yn dal i sefyll nes bod eu ceisiadau yn cael eu penderfynu.
Mae gan Cyngor ar Bopeth Cymru staff arbenigol a gweithwyr achos a all gynorthwyo ceisiadau cyfredol a hwyr, yn cynnwys unigolion a’u teuluoedd neu ofalwyr, wedi’u gynnig gan gydweithwyr yn Cyngor ar Bopeth Caerdydd a’r Fro, Cyngor ar Bopeth Sir Fflint a Cyngor ar Bopeth Casnewydd sy’n parhau i fod ar gael tan fis Mawrth 2022, yn cynnwys cyngor arbenigol ar Gyflogaeth a Chamwahaniaethu.
Gellir cael mynediad at linell gymorth genedlaethol a llinellau cymorth lleol ar ein Tudalen Bartneriaeth. Gall unigolion sy’n cysylltu â’n llinell gymorth genedlaethol ar 0300 3309 059 adael neges a bydd cynghorwr yn cysylltu â nhw o fewn dau ddiwrnod gwaith rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gwasanaeth Apeliadau Arbenigol ar y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu gwasanaeth apeliadau pwrpasol gan Newfields Law (yng Nghaerdydd) ar gyfer cleientiaid sy’n dymuno herio canlyniad penderfyniad gan wasanaeth Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) ar geisiadau i’r Cynllun gan apelio i’r Tribiwnlys Mewnfudo a bydd hefyd ar gael tan ddiwedd y flwyddyn yma. Maent yn cynnig y llwybrau cysyllu canlynol: 0292 1690049 neu info@newfieldslaw.com.
Taflenni Ffeithiau i Wladolion yr UE
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu’r taflenni ffeithau canlynol yn Gymraeg a Saesneg, a all helpu rhoi gwybodaeth i’r rheiny sy’n cysylltu â’ch gwasanaethau, yn cynnwys Hawliaau Mynediad i Fudd-daliadau; Hawliau i ofal iechyd am ddim y GIG; Hawliau Tai; Hawliau i Astudio; Hawliau i Bleidleisio; Hawliau i Weithio. Gall y taflenni ffeithiau yma gael ei lawrlwytho o Wefan Llywodraeth Cymru yn Saesneg a Chymraeg.
Byddwn yn gwerthfawrogi petai modd i chi rannu’r wybodaeth yma gydag unrhywun o fewn eich sefydliad neu rwydwatih gleientiaid a fydd o bosib dal i angen mynediad i’n gwasanaethau.