Hoffem eich sicrhau am y mesurau y mae C3SC yn eu cymryd yn ystod y pandemig presennol. Mae ein swyddfa yn Nhŷ Baltic ar gau. Fodd bynnag, rydym yn bwriadu gweithredu cymaint â phosib drwy weithio o bell. Mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost enquiries@c3sc.org.uk
Rydym sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau swyddogol diweddaraf ynghylch cyfarfodydd wyneb yn wyneb, ac felly ar hyn o bryd nid ydym yn cynnal mwy o gyfarfodydd nag y mae eu gwir angen, a dim ond y rhai hynny ble mae ein presenoldeb yn hanfodol yr ydym yn eu mynychu.Yn ogystal ag e-byst, efallai y byddwn yn gallu cynnal cyfarfodydd fideo neu ffôn lle bo angen, ac ar gais.Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch neu ffoniwch eich cyswllt arferol neu ewch i’n gwefan https://c3sc.vividblock.co.uk/contact-us i gael ein manylion cyswllt.
Os ydych chi’n chwilio am gyngor cyffredinol, yna ewch i’n gwefan https://c3sc.vividblock.co.uk/taflenni- gwyb-hyrwyddo-eich-sefydliad i lawrlwytho taflenni gwybodaeth ynghylch amrywiaeth o faterion a pholisïau sy’n berthnasol i wirfoddoli a’r trydydd sector.
Rydym yn ymwybodol bod gan lawer o bobl ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu eu bod yn chwilio am wirfoddolwyr ar yr adeg hon i helpu yn ystod pandemig Covid-19; os oes gennych ddiddordeb mewn helpu yn y gymuned neu os ydych yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi eich gweithgareddau neu wasanaethau, yna cofrestrwch yma https://volunteering-wales.net/vk/volunteers/my_opportunities_info_ur.htm?PID=10155792
Byddwn yn rhannu’r wybodaeth a gawn am newidiadau/canslo digwyddiadau neu argaeledd gwasanaethau eraill ar ein gwefan https://c3sc.vividblock.co.uk/cyfathrebu/ llyf-ddog-cyfathrebu/covid-19-hwb- gwybodaeth-coronafeirws
Byddwn yn rhoi diweddariadau i chi wrth i’r sefyllfa newid Mae pob un ohonom yma yn C3SC yn gobeithio eich bod chi, eich teuluoedd, eich ffrindiau a’ch cydweithwyr yn cadw’n ddiogel ac yn iach.
Cofion cynnes,
Sheila Hendrickson-Brown
Prif Swyddog Gweithredol