Ymunwch â C3SC a
symbylu’ch sefydliad 
Gallwn eich helpu gyda:
- Sefydlu grŵp cymunedol
- Cyllid a chynaliadwyedd
- Cefnogaeth arbenigol un- i-un
- Ymddiriedolwyr a llywodraethu
- Hyfforddiant a rhwydweithio
Pam ymaelodi?
- Mae aelodaeth o C3SC AM DDIM i grwpiau cymunedol a sefydliadau’r trydydd sector, ac mae'n cynnig amrywiaeth o fuddion.
- Rydym yn cynnig cyngor cyfrinachol ac ymyriadau interim.
- Gallwn eich helpu gyda
diwydrwydd dyladwy a gwirio
iechyd y sefydliad. - Gallwn helpu i wella cynaliadwyedd eich sefydliad.
- Mae C3SC yn cynnig llwybr fforddiadwy ar gyfer gweinyddu contractau, o’r gyflogres i wasanaethau rheoli cyfrifon; gallwn gynnig hyfforddiant i'ch cefnogi chi i ddatblygu neu barhau i gyflawni'r swyddogaethau hyn yn fewnol.
- Bydd eich aelodaeth yn cefnogi gwaith y trydydd sector mewn partneriaethau cyhoeddus, ymgynghoriadau, byrddau rhaglenni, partneriaethau cymdogaeth, ac wrth gyflawni strategaethau cenedlaethol yn lleol.
- Cewch gyfle i ddod yn aelod o rwydweithiau C3SC sy’n gysylltiedig â meysydd diddordeb perthnasol a chwrdd â sefydliadau trydydd sector eraill i rannu a dysgu oddi wrth eich gilydd.
- Mae ein haelodau yn siapio ac yn llywio ein blaenoriaethau.
Gallwn eich helpu chi i gysylltu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddweud eich dweud ar y pethau sydd bwysicaf i chi; i ddatblygu partneriaethau a chydweithrediadau newydd; i ymestyn yn bellach a chyfuno arbenigedd gyda sefydliadau trydydd sector a chymunedau lleol; i gwrdd â’ch nodau o ran cyd-gynhyrchu a chyfrifoldeb cymdeithasol.
Meini prawf ar gyfer aelodaeth AM DDIM
Mae dau opsiwn ar gyfer ymaelodi â C3SC:
-
Aelodaeth i sefydliadau / grwpiau
Mae’r aelodaeth hon AM DDIM ac ar gael i grwpiau a sefydliadau:
– nid-er-elw
– sy’n cael eu rhedeg gan bwyllgor di-dâl
– sydd wedi’u lleoli yn ninas Caerdydd neu sy’n gwasanaethu’r ddinas
-
Aelodaeth i unigolion
Mae’r aelodaeth hon AM DDIM ac ar gyfer unigolion sy’n ymwneud â’r trydydd sector yng Nghaerdydd
Os ydych o fusnes preifat / corff cyhoeddus / y cyfryngau, e- bostiwch membership@c3sc.org.uk ac fe gysylltwn â chi
I ddysgu mwy am ymaelodi
Ffoniwch ni ar (029) 2048 5722 neu e-bostiwch membership@c3sc.org.uk Neu, llenwch y ffurflen gais i ymaelodi ar-lein..