Mae’r prosiect Gwydnwch, prosiect arloesol i gefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a allai fod wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod, yn cael ei dreialu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Mae’r adnoddau’n cael eu cyflwyno mewn rhaglen dreigl i ysgolion cynradd ac uwchradd dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Iechyd Meddwl, fel rhan o weledigaeth Cymru Iachach Llywodraeth Cymru ar gyfer sector iechyd a gofal cymdeithasol di-dor. Mae Arian Trawsnewid Llywodraeth Cymru wedi’i roi drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae’r prosiect newydd a arweinir gan seicoleg yn cyd-fynd â gwasanaethau iechyd meddwl presennol y bwrdd iechyd ar gyfer plant a phobl ifanc ac mae’n gweithio ar y cyd ag adrannau addysg awdurdodau lleol. Mae eisoes wedi helpu 147 o deuluoedd yn uniongyrchol ac wedi hyfforddi mwy na 500 o weithwyr proffesiynol.
Cefnogir y prosiect gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a’i nod yw magu gwydnwch iechyd meddwl plant a phobl ifanc drwy leoliadau addysgol, yn hytrach na’r dewisiadau eraill mwy nodweddiadol yn y clinig.
Mae’n cael ei gyflawni drwy gynnig adnoddau newydd a hyfforddiant pwrpasol i staff addysg, yn ogystal ag ymgynghoriadau dan arweiniad clinigwyr ar gyfer staff addysg. Mae’r prosiect hefyd yn cyflawni gwaith grŵp sy’n hybu iechyd meddwl plant, yn ogystal ag ymyriadau uniongyrchol gyda phlant a’u teuluoedd.
Mae’r Prosiect Gwydnwch wedi bod ar waith ers 18 mis ac wedi cael ei ymestyn am flwyddyn arall. Gellir cael yr adnoddau drwy fynd i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro