Mae Uned Atal Trais Cymru wedi cael arian gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal gwaith ymchwil hanfodol ar gam-drin domestig, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerwysg. Diben y gwaith yw ymchwilio i brofiadau ac ymddygiadau’r rhai sy’n dyst i achosion o drais a cham-drin domestig neu y mae ganddynt bryderon am achosion o’r fath a’r arwyddion eu bod yn digwydd yn ystod COVID-19.
Fel rhan o’r gwaith ymchwil hwn, mae’r tîm yn gofyn i aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru rannu, yn ddienw, eu profiad o fod yn dyst i achosion o gam-drin domestig neu eu pryderon am gam-drin domestig yn ystod y pandemig er mwyn sicrhau y gall gwylwyr gael y wybodaeth, y sgiliau a’r hyfforddiant cywir sydd eu hangen arnynt i ymyrryd yn ddiogel a helpu mwy o bobl yn y dyfodol.
Suggested Social Media Messaging – Bystander Research Survey.
Allwch chi helpu i atal cam-drin domestig yng Nghymru?
Dolen arolwg:
www.violencepreventionwales.co.uk/cy/arolwg
Twitter: @WalesVPU
Facebook: WalesVPU
Instagram: @walesvpu