Mae ap Restrain yn rhan o brosiect ymchwil ehangach i brofi a all gwahanol fathau o ymarferion ‘hyfforddiant i’r ymennydd’ helpu pobl i golli pwysau. Mae’r tasgau hyfforddi wedi’u profi eisoes mewn grwpiau bach o bobl, ond erbyn hyn rydym am ganfod a ydynt yn gweithio ar raddfa fawr gyda phobl sydd dros bwysau neu’n ordew. Os yw’r tasgau’n gweithio, rydym am cael gwybod pa fath o hyfforddiant sy’n gweithio orau a phwy sy’n debygol o elwa fwyaf. Y prosiect yw’r mwyaf o’i fath ac rydym am i chi fod yn rhan ohono.
Mae’r ap yn golygu cwblhau gwahanol dasgau bob dydd. Mae angen i chi hefyd gael eich pwyso unwaith yr wythnos er mwyn i ni allu olrhain eich cynnydd. Gallwch gymryd rhan gyn gymaint neu gyn lleied ag y dymunwch – ond gorau po fwyaf.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect Restrain, lawrlwythwch Restrain o Google Play.
Cysylltwch: [email protected]