Mae Gwobrau Tiwtor Ysbrydoli! ar agor ar gyfer enwebiadau!
Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn dathlu’r effaith a gaiff tiwtoriaid wrth gefnogi oedolion sy’n ddysgwyr i gyflawni eu potensial a thrawsnewid eu bywydau.
Mae’r broses enwebu yn awr AR AGOR – mae gennych tan ddydd Llun 7 Hydref i gyflwyno eich enwebiad.
Tu ôl i bob dysgwr llwyddiannus mae tiwtor neu fentor sy’n ysbrydoli
Caiff Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a’u cefnogi gan NTFW, Colegau Cymru, Canolfan Dysgu Cymreg Genedlaethol, Prifysgolion Cymru, Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru.
Rydym yn edrych am diwtoriaid a mentoriaid o’r gosodiadau dilynol:
- Addysg Uwch
- Addysg Bellach
- Gosodiad Gweithle
- Addysg Gymunedol
- Cymraeg i Oedolion
- Ysgol neu osodiad arall
Lawrlwythwch y dogfennau dilynol i lenwi eich ffurflen enwebu.
– Ffurflen enwebu Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid
– Dalen categorïau a chanllawiau
– Cyngor da ar sut i ysgrifennu enwebiad llwyddiannus
Nodwch: ni chaiff y dyddiad cau ei ymestyn eleni, felly rhowch ddigon o amser i’ch hunan i anfon eich enwebiad erbyn y dyddiad cau.
Ar ôl ei llenwi, e-bostiwch eich ffurflen enwebu at[email protected] neu ei phostio:
Sefydliad Dysgu a Gwaith, 35 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HB
Os ydych angen unrhyw gymorth gyda’ch enwebiad, cysylltwch â [email protected]