Reminder – Please share this information with your networks – spaces still available
Nodyn atgoffa – Rhannwch yr wybodaeth hon â’ch rhwydeithiau – lleoedd ar gael or hyd
INVITATION from the Future Generations Commissioner for Wales to a Workshop with Representatives of the BAME Community.
10:00-12:30, Wednesday 12 February, Butetown Community Centre, 40 Loudoun Square, Cardiff Bay CF10 5UZ
The Future Generations Commissioner for Wales is to be “the guardian of the interests of future generations” and our approach in Wales is receiving international recognition from governments and institutions across the world.
Issues relating to the types of jobs and skills we will need in the future, ensuring equality for all, a vibrant culture and thriving Welsh language and creating attractive, safe, and well-connected communities are all key issues. As well as challenging Government and other public bodies my role in driving the change needed includes sharing the uplifting actions and changes which organisations, communities and individuals are making towards the well-being of Wales.
Producing a Future Generations Report is one of my duties in the Well-being of Future Generations Act. This will be published in May 2020. The Act deliberately sets the timing before national and local elections so that it can inform public debate and political manifestos.
I see it as a great opportunity to develop a collective manifesto for the future generations of Wales and I want to involve people and organisations widely across Wales.
And this is where we would like your organisation to play a role. As an organisation which represents the BAME community in Wales we would like to invite you to a workshop on Wednesday 12 February from 10:00-12:30, Main Hall, Butetown Community Centre, 40 Loudoun Square, Cardiff Bay CF10 5UZ.
This will be an opportunity to hear and comment on some of the emerging findings and recommendations of the report and provide additional perspectives and ideas. We hope that you will be able to attend so that we can make sure that we reflect and share your important perspectives in our 2020 Future Generations Report.
I have attached a list of organisations who are invited. If you would like to suggest others to include, please let us know.
Please could you confirm your attendance and the additional names and email addresses by emailing contactus@futuregenerations.wales by Friday 7 February.
****
GWAHODDIAD gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i Weithdy gyda Chynrychiolwyr y Gymuned Asiaidd, Du a Lleiafrifoedd Ethnig.
10:00-12:30, 12 Chwefror, Canolfan Cymunedol Butetown, Caerdydd
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yw bod yn ‘warcheidwad buddiannau cenedlaethau’r dyfodol’ ac mae ein dull o weithredu yng Nghymru’n derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol gan lywodraethau a sefydliadau ledled y byd.
Mae materion sy’n ymwneud â’r mathau o swyddi a sgiliau y bydd eu hangen arnom yn y dyfodol, gan sicrhau cydraddoldeb i bawb, diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ynghŷd â chreu cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel, i gyd yn allweddol.
Yn ogystal â herio Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill, mae fy rôl wrth yrru’r newid sydd ei angen yn cynnwys rhannu’r gweithredoedd a’r newidiadau dyrchafol y mae sefydliadau, cymunedau ac unigolion yn eu gwneud tuag at Gymru fwy cynaliadwy.
Un o fy nyletswyddau dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw cynhyrchu Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol. Cyhoeddir hwn ym mis Mai 2020. Mae’r Ddeddf yn gosod yr amseriad yn fwriadol cyn etholiadau cenedlaethol a lleol er mwyn iddo allu cyfrannu at ddadl gyhoeddus a maniffestos gwleidyddol.
Rwy’n ei weld fel cyfle gwych i ddatblygu maniffesto ar y cyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol Cymru a hoffwn gynnwys pobl a sefydliadau’n eang ledled Cymru.
A dyna ble yr hoffem i’ch sefydliad chi chwarae rôl. Fel sefydliad sy’n cynrychioli cymuned Du Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru, rydyn ni’n eich gwahodd i weithdy Ddydd Mercher 12 Chwefror am 10:00-12:30, Prif Neuadd, Canolfan Cymunedol Butetown, 40 Sgwâr Loudoun, Caerdydd CF 10 5UZ.
Bydd hyn yn gyfle i glywed a gwneud sylwadau ar rai o’r canfyddiadau a’r argymhellion sy’n dechrau cael eu hamlygu yn yr adroddiad, a darparu safbwynt a syniadau ychwanegol. Gobeithio y bydd modd i chi fynychu, er mwyn i ni sicrhau ein bod ni’n adlewyrchu ac yn rhannu eich safbwyntiau pwysig chi yn ein Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020.
Atodaf restr o sefydliadau a gwahoddwyd. Os oes sefydliadau eraill y dylem eu gwahodd rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda.
A fyddech cystal â chadarnhau eich bod chi eisiau mynychu, ynghyd â’r enwau ychwanegol a chyfeiriadau ebost drwy e-bostio cysywlltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru erbyn 7 Chwefror.

