Latest NewsNews

Cwmnïau Cymdeithasol Cymru a UnLtd i lansio Ecwiti, gefnogaeth newydd i entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru

Share this article

Cwmnïau Cymdeithasol Cymru a UnLtd i lansio Ecwiti, gefnogaeth newydd i entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru

Mae UnLtd a Cwmnïau Cymdeithasol Cymru wedi partneru er mwyn dod o hyd i, ariannu a darparu  cefnogaeth i entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y rheini o gefndiroedd sydd wedi’u hymyleiddio.

Gan gydnabod bod pandemig Covid-19 wedi dwysáu’r anghyfartaledd sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru, nod Ecwiti yw cynorthwyo’r rheini sydd wedi’u heffeithio waethaf. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn gweithio i’r deilliannau a nodir yn Trawsnewid Cymru trwy Fentrau Cymdeithasol, gweledigaeth 10 mlynedd i weld mentrau cymdeithasol yn ddewis cyntaf i’w mabwysiadu yn fodel busnes.

Rhyngddynt bydd y partneriaid yn cynnig oddeutu £120,000 mewn nawdd a chefnogaeth i amrediad o fentrau cymdeithasol fedru cychwyn, cynnal a/neu dyfu eu busnesau.

Yng Nghymru, mae pobl anabl, Du, Asaidd a chymunedau lleiafrifol ethnig, a phobl sy’n byw mewn tlodi (gwledig a threfol) yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan y pandemig. Rhwng Rhagfyr 2021 a Mawrth 2023 bydd UnLtd a Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn chwilio i ariannu entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru sy’n:

•                   byw neu’n gweithio mewn ardaloedd â chyfraddau uchel o dlodi

•                   Du, Asaidd a/neu o gefndiroedd lleiafrifol ethnig

•                   anabl

•                   meddu ar brofiad byw o’r elfennau cymdeithasol y maent yn ceisio eu datrys

Gall entrepreneuriaid cymdeithasol gael gwybod mwy am y gefnogaeth sydd ar: unltd.org.uk/awards

Ar gael ar: UnLtd Portal 

A gellir gofyn am ffurflenni cais yn Gymraeg trwy e-bostio: [email protected]

 

To view this article in English, click here.

Tags: ,
Efwletin Rhwydwaith Iechyd – Her Driphlyg
Trydydd Sector Ffyniannus yng Nghaerdydd: yr achos dros Strategaeth i Fudiadau Gwirfoddol, Cymunedol a Chymdeithasol

Join Our Community

C3SC’s Community Platform is a free virtual social network for residents of Cardiff to follow discussions on various social and or business topics, get support to run or start a project, Community Interest group or charity, find funding, share documents and photos, follow and meet new friends, find jobs and volunteering opportunities, find, rate and provide your feedback to us and other organisations.

Join Our
Community

noun Community 1852937

C3SC’s Community Platform is a free virtual social network for residents of Cardiff. Register now to share your views, contribute to your community and provide your feedback to us and other organisations.

Please note that C3SC cannot take responsibility for the information other organisations produce, for example, in their resources, and on their websites. The views of other organisations are not necessarily the views of C3SC.

You might also like:

Stay Connected

Instagram
YouTube
Fill out this field
Please enter a valid email address.
Fill out this field
Skip to content