Gall rheoli eich sefydliad fod yn gymhleth ac yn heriol. Gall y gefnogaeth gywir helpu i atal yr heriau hyn rhag troi’n argyfwng.
Cefnogaeth gan Gyngor Trydydd Sector Caerdydd
Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd yn bodoli i gefnogi a datblygu trydydd sector Caerdydd. Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a CGGC, rydym wedi ymroi i gynyddu gwybodaeth a sgiliau’r sector i sicrhau bod grwpiau a sefydliadau yng Nghaerdydd yn gallu gwneud eu hunain yn gynaliadwy a diwallu anghenion eu cymunedau.
Ydych chi’n ystyried sefydlu grŵp?
Gall ein swyddogion trydydd sector eich cefnogi wrth i chi sefydlu a datblygu eich grŵp newydd, gan eich helpu i ddewis y math o grŵp a strwythur cyfreithiol a fyddai’n gweddu orau i chi, a chan roi cyngor arbenigol ar y materion y mae sefydliadau newydd yn aml yn eu hwynebu.
Ydych chi’n chwilio am gyllid?
Gall ein swyddogion trydydd sector roi cymorth i chi i chwilio am gyllid ar gyfer eich sefydliad. Efallai y bydd y dudalen Cyfleoedd Ariannu Cyfredol o gymorth i chi hefyd. Rydym hefyd wedi llunio Taflen Ffeithiau am Gyllid, y gallwch ei gweld yma.
Hoffech chi ddod yn aelod o C3SC?
Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) yn rhoi cyfle i bob grŵp cymunedol a gwirfoddol, a phob menter gymdeithasol, ddod yn aelod a manteisio ar nifer o fuddion. Llenwch y ffurflen ymaelodi ar-lein.
I fynd ymlaen, mynnwch hyfforddiant
Edrychwch ar yr amrywiaeth enfawr o hyfforddiant (sydd am ddim yn aml) y mae C3SC yn ei gynnig i’r trydydd sector – ar redeg, cyllido, cynllunio a thyfu eich sefydliad
Systemau Cymorth Swyddfa
Mae C3SC yn cynnig Systemau Cymorth Swyddfa cystadleuol i’r Trydydd Sector: Cyfrifeg, y Gyflogres a Gweinyddu. Cysylltwch â’n tîm ymroddedig ar 02920 485722 i gael rhagor o wybodaeth.
Cymorth Pwrpasol
Ydych chi’n awyddus i wirfoddoli neu recriwtio gwirfoddolwyr?