Support For Organisations and Community Groups

Asesiad Anghenion Poblogaeth Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Caerdydd a’r Fro – Galwad am Ddatganiadau o Ddiddordeb

Share this article

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhanbarth yng Nghymru baratoi a chyhoeddi Asesiad Anghenion Poblogaeth bob pum mlynedd. Bydd yr asesiad yn canolbwyntio ar ennill dealltwriaeth fanylach o’r anghenion am ofal a chymorth ymhlith gwahanol grwpiau o bobl yn y boblogaeth, a bydd yn helpu i wella’r ystod o wasanaethau gofal a chymorth sydd gennym nawr, ac yn cynllunio ar gyfer yr hyn y bydd ei angen arnom yn y blynyddoedd i ddod.

Cyhoeddir yr Asesiad Anghenion Poblogaeth nesaf ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, a bydd Cyngor Trydydd Sector Caerdydd, a ariennir gan y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol ac sy’n gweithio ar y cyd â Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg, yn arwain ar ymgysylltu â dinasyddion i nodi’r anghenion gofal a chymorth allweddol ar gyfer pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael cyfle i gyfrannu at yr asesiad a helpu i lunio gwasanaethau gofal a chymorth cyfredol ac yn y dyfodol.

Rydym yn awyddus i wahodd gwasanaethau gwirfoddol a chymunedol i sicrhau bod eich defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr yn cymryd rhan. Yn benodol, rydym yn edrych am grwpiau a mudiadau trydydd sector a all ymgysylltu â phobl ar draws gwahanol grwpiau poblogaeth i gynnal grwpiau ffocws a/neu hyrwyddo ein holiadur ar-lein.

Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb gan fudiadau trydydd sector ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Rydym yn gweithio o fewn terfynau amser tynn, a byddwn yn gallu darparu cyllid o hyd at £550 y sesiwn i gefnogi grwpiau a mudiadau trydydd sector yn y rhanbarth gyda’r gost o drefnu a chynnal sesiynau ymgysylltu. Bydd angen cwblhau’r holl weithgareddau ymgysylltu a chyflwyno gwybodaeth i ni erbyn 12 hanner dydd ddydd Gwener 22 Hydref 2021 fan bellaf.

I gymryd rhan, cwblhewch y ffurflen isod a’i dychwelyd i [email protected] – gan roi “Asesiad anghenion poblogaeth – Datganiad o ddiddordeb” yn y llinell bwnc, neu fel arall cwblhewch y ffurflen ar-lein yma erbyn 5pm, ddydd Mawrth 21 Medi 2021. I ofyn am ffurflen yn Gymraeg, gofynion eraill neu drafod y cyfle hwn ymhellach, e-bostiwch Anna yn [email protected]

I lawrlwytho’r ffurflen ewch i – Expression of Interest form – Population Needs Assessment (Welsh).docx

Parhad yn y Gefnogaeth i Wladolion yr UE/AEE a’r Swisdir mewn perthynas â’r Cynllun Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a Chefnogaeth gyda Chamwahaniaethu
Ffair Iechyd Cymunedau Ethnig Lleiafrifol – Dydd Mercher 20th Hydref 2021, 10 yb – 2 yp

Join Our Community

C3SC’s Community Platform is a free virtual social network for residents of Cardiff to follow discussions on various social and or business topics, get support to run or start a project, Community Interest group or charity, find funding, share documents and photos, follow and meet new friends, find jobs and volunteering opportunities, find, rate and provide your feedback to us and other organisations.

Join Our
Community

noun Community 1852937

C3SC’s Community Platform is a free virtual social network for residents of Cardiff. Register now to share your views, contribute to your community and provide your feedback to us and other organisations.

Please note that C3SC cannot take responsibility for the information other organisations produce, for example, in their resources, and on their websites. The views of other organisations are not necessarily the views of C3SC.

You might also like:

Stay Connected

Instagram
YouTube
Fill out this field
Please enter a valid email address.
Fill out this field
Skip to content