Ydych chi wedi gwirfoddoli yn eich cymuned, ar gyfer sefydliad neu unrhyw Grŵp Cymorth COVID-19 yn ystod argyfwng COVID-19? A hoffech chi rannu eich profiad i’n helpu ni i ddatblygu cymuned wirfoddoli gref a chael cyfle i ennill tabled symudol Apple iPad?
Os hoffech, byddem yn gwerthfawrogi’ch amser a’ch adborth trwy gwblhau’r arolwg byr hwn o 10 cwestiwn. Caiff eich enw ei roi yn ein raffl fawr i ennill tabled symudol Apple iPad. Mae’r arolwg hwn yn agored i bobl sydd wedi gwirfoddoli yn ystod pandemig COVID-19 yn sir Caerdydd.
Cyflwyniad:
Mae’r arolwg hwn yn cael ei gynnal gan Gyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC), Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS). Mae’r gwaith hwn wedi’i ddwysáu yn ystod argyfwng COVID-19 gyda C3SC yn recriwtio dros 4000 o wirfoddolwyr ac yn cefnogi ein cymunedau trwy ymateb i dros 6,000 o ymholiadau am wirfoddoli. Fodd bynnag, rydym yn fwyaf balch o ymateb cymunedau i’r argyfwng hwn yng Nghaerdydd a Chymru yn gyffredinol. Felly, nid ydym am golli’r brwdfrydedd hwnnw ac rydym am sicrhau bod y rhai sydd wedi rhoi eu hamser i’w cymuned yn ystod argyfwng COVID-19 yn cael cyfleoedd i wneud hynny eto ac i roi adborth i ni. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu seilwaith gwirfoddoli cryf(ach) yng Nghaerdydd i gynorthwyo pobl i wirfoddoli/helpu, seilwaith a all ymateb yn gyflym i argyfyngau yn y dyfodol. Diogelu Data – mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol ar ddiogelu data. Dim ond gyda’ch caniatâd chi y caiff y wybodaeth a roddwch ei rhannu a bydd unrhyw ddata personol yn cael ei storio’n ddiogel yn unol â hynny. Ewch i’n tudalen