Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn falch i gyflwyno cynhadledd addysg oedolion eleni mewn partneriaeth gyda Phartneriaeth Addysg Oedolion Cymru gyda chefnogaeth Dysgu Oedolion Cymru.
Datblygu hawl i ddysgu gydol oes
Y llynedd gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad oedd yn torri tir newydd i ddatblygu hawl i ddysgu gydol oes. Gyda thystiolaeth yn parhau i ddangos gwerth dysgu gydol oes ac addysg oedolion wrth helpu i addasu i’r newid yn natur gwaith, i wella iechyd a llesiant, ac i ddod â chymunedau ynghyd, mae gennym gyfle yng Nghymru i gydweithio i wireddu hawl newydd i ddysgu.
Bydd y Gynhadledd Addysg Oedolion eleni yn edrych ar yr elfennau allweddol sydd eu hangen i ddarparu hawl i ddysgu gydol oes, yn cynnwys rôl colegau, prifysgolion, dysgu yn y gymuned, darparwyr hyfforddiant, undebau llafur a’r trydydd sector. Bydd cynrychiolwyr yn clywed gan arweinwyr sector allweddol ar yr heriau a’r cyfleoedd, yn ogystal â chael cyfle i drafod y newidiadau polisi sydd eu hangen i wireddu hyn ar gyfer pobl ym mhob cymuned yng Nghymru.
Bydd y gweithdai a thrafodaethau sesiynau llawn yn cynnwys:
- Rôl ac effaith dysgu yn y gymuned, seiliedig ar le yn y dyfodol
- Profiad dysgwyr a phwysigrwydd cyngor, arweiniad a chefnogaeth ymarferol
- Rôl undebau llafur wrth gefnogi sgiliau hanfodol yn y gweithle
- Pwysigrwydd buddsoddi mewn dysgu fel teulu
- Creu llwybrau i addysg uwch
- Adeiladu cynnig dysgu ar-lein Cymru
|