Mae’r sector colli golwg yng Nghymru wedi dod ynghyd i gynhyrchu adnodd gwybodaeth ar gyfer y rhai sydd â colled golwg yn ystod y pandemig Coronavirus. Rydym fel sector yn pryderu bod yna pobl â cholled golwg heb fynediad at wybodaeth ar-lein. Rydym am gyhoeddi’r wybodaeth hon i’r rhai sydd fwyaf bregus ar hyn o bryd ac mae angen eich help arnom i wneud hyn.
Os rydych yn cysylltu ag neu bod rhywun â cholled golwg yn cysylltu â chi sy’n hunan-ynysu ac o bosib angen cymorth gyda thasgau fel danfoniadau siopa neu bresgripsiwn, mae’r rhestr atodedig yn cynnwys manylion cyswllt sefydliadau a all ddarparu cyngor, gwybodaeth neu gefnogaeth yn eich ardal. O dan bob Awdurdod Lleol mae yna hefyd y gymdeithas leol ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall. Mae yna hefyd rhestr o sefydliadau cenedlaethol ac arbennigol. Mi fydd y wybodaeth hon yn Cael ei ddiweddaru ar-lein ar http://www.wcb-ccd.org.uk/coronavirus.php#local. Cysylltwch â mailto:richard@wcb-ccd.org.uk gyda cywiriadau neu welliannau.