Er y gall y ffliw fod yn ysgafn, i rai pobl mae’n ddifrifol. Felly plîs peidiwch â cholli’r cyfle i gael brechiad y ffliw am ddim.
Mae’r ffliw yn lledaenu’n hawdd, yn enwedig mewn amgylchedd caeedig fel cartrefi gofal ac mae cael brechiad nid yn unig yn amddiffyn yr unigolyn, ond hefyd yn helpu i amddiffyn y rhai o’i gwmpas. Brechiad blynyddol y ffliw yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag dal neu ledaenu’r ffliw. Dyma pam mae brechiad y ffliw am ddim i staff gofal cymdeithasol, a pham rydyn ni’n annog rheolwyr cartrefi gofal a gofal cartref i annog eu staff i gael eu brechu rhag y ffliw yn ogystal â COVID-19.
Fel rheolwr, byddem yn eich annog i drafod y brechiadau pwysig hyn gyda’ch staff. Bydd cadw cofnod o statws brechu’r staff (os yw’r staff yn cytuno i hyn) yn eich helpu i ddeall yn well pwy sydd wedi cael ei amddiffyn, a bydd yn ddefnyddiol os bydd achosion yn digwydd.
Gall staff gofal cymdeithasol rheng flaen gael brechiad y ffliw am ddim mewn fferyllfa gymunedol, ac mewn rhai ardaloedd bydd y fferyllfa gymunedol yn trefnu i ddod i’ch sefydliad i frechu’r staff, os byddwch chi’n trefnu hyn gyda hwy. Mae hyn yn boblogaidd iawn mewn rhai ardaloedd sy’n nodi bod nifer y staff sy’n cael y brechiad yn rhagorol, sydd mor bwysig gan mai’r bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal a’r rhai sy’n derbyn gofal cartref yw’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn aml.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog staff gofal cymdeithasol sydd â chyswllt uniongyrchol â chleientiaid i gael brechiad ffliw am ddim y GIG cyn gynted â phosibl, a hefyd i gael pob un o’r brechlynnau COVID-19 sydd ar gael iddynt wrth i’r gaeaf gyrraedd nawr.
Mae brechiad y ffliw yn ddiogel iawn ac nid yw’n cymryd fawr ddim amser. Gall atal wythnosau o salwch difrifol.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am frechiad y ffliw neu frechlynnau COVID-19 yn gyffredinol, gallwch gael rhagor o wybodaeth yma:
Flu vaccine: phw.nhs.wales/fluvaccine
COVID-19 vaccine: phw.nhs.wales/covidvaccine
To read this post in English, please click the following link: https://c3sc.org.uk/accessing-the-flu-vaccine/