Dewch i gael syniadau ar sut i gwblhau eich cais grant Gwirfoddoli Cymru yn y sesiwn wybodaeth am ddim hon.
24 February 10am – 12pm
Ynglŷn â’r digwyddiad hwn:
Mae Gwirfoddoli Cymru yn ymwneud â’r ‘…math o wlad rydyn ni ei eisiau’. Mae Cynllun Grantiau Gwirfoddoli Cymru (VWG) 2021/22 yn derbyn ceisiadau nawr! Dyma’r nodau ar gyfer y flwyddyn hon: • Cynyddu ymgysylltiad a boddhad gwirfoddolwyr drwy gael gwared â’r rhwystrau i wirfoddoli ar gyfer pobl o bob oed a phob rhan o’r gymdeithas. • Cefnogi’r gwaith o greu a datblygu cyfleoedd gwirfoddoli cadarnhaol ac o ansawdd uchel yng Nghymru. • Hybu newidiadau o fewn mudiadau buddiolwyr er mwyn ymwreiddio gwirfoddoli yn eu diwylliant, e.e. ennill y Dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. Mae CGGC eisiau sicrhau bod gan fudiadau’r adnoddau a’r arweiniad i gynnig profiadau gwirfoddoli o ansawdd sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar fynychwyr i greu a chyflwyno prosiect gwirfoddoli a chais o ansawdd uchel i Grantiau Gwirfoddoli Cymru.