Diweddariad Brexit
Am wythnos i’w grynhoi ynglŷn â Brexit …
Cafwyd tair pleidlais fawr a roddodd nifer o droeon trwstan, ymddiswyddiadau, colledion i’r Llywodraeth ar y Bil Masnach, datganiad y gwanwyn ac i goroni’r cyfan, cynlluniau dim-cytundeb Brexit llywodraeth y DG.
Mewn nifer o ffyrdd, fe wireddwyd ein disgwyliadau o ddechrau ‘r wythnos. Ond roedd cyrraedd yno’n broses dramatig…
- Yn ôl y disgwyl cafodd y cytundeb gadael ei wrthod.
- Yn wir, gwrthodwyd Brexit ‘heb-gytundeb’ hefyd, er mewn modd cryfach nac a fwriadwyd gan y llywodraeth.
- Yn olaf, yn ôl y disgwyl, pleidleisiodd y Senedd i ofyn am estyniad ‘technegol’ tan Fehefin 30, 2019.
Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer Brexit heb gytundeb?
Er gwaetha’r bleidlais, gadael heb gytundeb yw’r deilliant diofyn o hyd, hyd yn oed os nad yw hyn yn digwydd ar Fawrth 29 o ganlyniad i estyniad. Yn wir, yn dilyn yr ail bleidlais ystyrlon, dywedodd Donald Tusk fod y canlyniad yma’n’cynyddu’r tebygrwydd o adael ‘heb-gytundeb’.
Rydym newydd ryddhau canllaw i helpu sefydliadau baratoi ac mae’r OCS newydd ryddhau’r rhestr wirio yma. Gweler hefyd y llythyr hwn o Lywodraeth y DG ar gyfarwyddyd ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol os yw’n berthnasol. Mae rhai wedi awgrymu y gellid ‘gadael mewn modd trefnus ond heb-gytundeb’.
Fodd bynnag, gweler ddiagram y Sefydliad dros Lywodraeth am fwy o wybodaeth ar y cysur cyfyng a geir gan hynny, yn ogystal â’r eglurhad manwl ynglŷn â chyflwr y paratoadau i adael heb gytundeb.
Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer estyniad?
Penderfynodd y trydydd allan o dair pleidlais yr wythnos hon y dylai Llywodraeth y DG geisio cael estyniad ‘technegol’ hyd at Fehefin 30, 2019. Caiff y cais hwn ei wneud i’r UE waeth bynnag beth ddigwyddiff nesaf. Byddai’n fyr a’i fwriad yw rhoi amser i weithredu’r prosesau deddfwriaethol sydd eu hangen.
Golyga hyn hefyd bydd Theresa May yn dod â’r Cytundeb Gadael yn ôl am drydedd bleidlais ystyrlon erbyn Mawrth 20. Mae’r amseru’n berthnasol, oherwydd bod Cyngor yr UE yn cwrdd ar Fawrth 21 ac mae’n debygol taw bryd hynny y byddan nhw wedyn yn penderfynu ar b’un y dylid caniatáu estyniad neu beidio.
Ymddengys yn annhebygol y byddai’r cytundeb yn pasio ar ôl cyn lleied o amser, od ni ellir ei ddiystyru. Mae hi wedi datgan pe bai’r cytundeb yn cael ei wrthod am y trydydd tro, gallwn fod yn edrych ar estyniad maith o flwyddyn neu fwy, sef rhywbeth fyddai’n brawychu nifer o aelodau seneddol, ond sydd yn opsiwn mae’r UE yn ystyried ei ganiatáu.
Bydd gofyn i unrhyw estyniad dderbyn cydsyniad unfrydol Cyngor yr UE ac mae’r UE wedi dweud “bydd yr UE27 yn disgwyl cyfiawnhad credadwy am estyniad posib a’i hyd”. Dos dim disgwyl i’r UE wrthod cais am estyniad, ond ni ddylid diystyru hyn chwaith. Mae yna ddisgwyl am ddatblygiad sylweddol, os am gyfiawnhau estyniad hir; datblygiad sylweddol, fel Ail Refferendwm neu gynnal etholiadau cyffredinol.
Am fwy o wybodaeth, mae Llywodraeth y DG wedi rhyddhau y nodyn technegol hwn sydd yn egluro’r broses estyniad, ac mae’r Athro Barnard a’r Athro Weatherill wedi cyhoeddi’r blog yma sydd yn egluro’r senarios amrywiol posib.
Beth yw’r camau nesaf?
Mae’n debyg mai’r cam nesaf fydd cynnal Pleidlais Ystyrlon 3.0 erbyn Mawrth 20 a Chyngor yr UE ar Fawrth 21 lle caiff unrhyw estyniad ai gymeradwyo neu ei wrthod a gellid fod ag amodau arni.
- Os yw’r cytundeb yn cael ei gymeradwyo, yna bydd Llywodraeth y DG yn cynnig Bil y Cytundeb Gadael.
- Os yw’r cytundeb yn methu eto, gallwn fod yn edrych ar gyfnod estyniad hirach a’r DG yn cymryd rhan yn etholiadau i Senedd Ewrop.
Mae’r diagram yma’n mapio’r camau posib ymlaen. Am fwy o fanylder ynglŷn â’r pleidleisiau fu’n digwydd, gweler hyn yn ‘Adroddiad Y DG mewn UE sy’n Newid’
Brexit Update
What a week to summarise on the Brexit front…
Three major Brexit votes which provided various twists and turns, resignations, government defeats on the Trade Bill, the spring statement and to top it off, the UK Government’s no-deal Brexit plans.
In a few ways, the expectations from the start of the week were met. But getting there was a dramatic process…
- As expected the withdrawal agreement was rejected.
- And indeed a ‘no-deal’ Brexit was also rejected, albeit in a stronger manner than the UK Government intended.
- Finally, again as expected, the UK Parliament voted to request a ‘technical’ extension until 30 June 2019.
What does this mean for a no-deal Brexit?
Despite the vote, leaving without an agreement remains the default outcome, even if this does not occur on the 29 March due to an extension. In fact following the 2nd Meaningful Vote, Donald Tusk stated that this result increased the likelihood of ‘no-deal’.
We have released a guide to help organisations prepare and the OCS has also just released this checklist. See also this letter from the UK Government on guidance for social care providers if relevant.
Some have suggested that we could have ‘managed no-deal’. However see this Institute for Government diagram for more information on the limited comfort this provides, as well as this detailed explainer on the state of no-deal preparations.
What does this mean for an extension?
The third of the three votes this week decided that the UK Government should seek a ‘technical’ extension to the 30 June 2019. This request will be made to the EU regardless of what happens next at this point. It would be short and is intended to provide time for the necessary legislative processes.
This also means that Theresa May is going to bring the Withdrawal Agreement back for a third meaningful vote by the 20th March. The timing is relevant, because the EU Council are meeting on 21 March and will likely then, decide on whether to grant an extension.
It seems unlikely that the deal will pass after such a short time, but it cannot be discounted. She has stated that if the agreement is rejected a 3rd time, we could be looking at a long extension of potentially at least a year, something which may scare many MPs, but is an option the EU is considering allowing.
Any extension will require the unanimous approval of the EU Council and the EU has said that “the EU27 will expect a credible justification for a possible extension and its duration”. It is not expected that the EU will refuse an extension request, but this should not be discounted either. There is an expectation that, particularly for a long extension, a substantial development, like a 2nd Referendum or general elections would take place.
For more information the UK Government has released this technical note explaining the extension process, and Professors Barnard and Weatherill have published this blog explaining the various possible extension scenarios.
What are the next steps?
Its potentially full steam ahead for Meaningful vote 3.0 by 20 March and the EU Council on 21 March where any extension will be either approved, rejected and may have conditions placed on it.
- If the agreement passes, the UK Government will table the Withdrawal Agreement Bill.
- If the agreement fails to pass again, we could be looking at a longer extension and the UK taking part in the MEP elections.
This diagram maps out possible ways forward. For a more detailed read of the votes that have been happening, see this UK in a Changing EU report.
|