RhCM Cymru’n ailagor cynllun mentor ai gael mwy o fenywod i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol.
Mae’n bleser gan RhCM Cymru lansio trydedd flwyddyn o’n cynllun mentora ac rydym yn recriwtio carfan o 30 o fenywod a grwpiau hawliau menywod dyheadol i gymryd rhan. Rydym yn dewis menywod ledled Cymru sy’n dymuno datblygu eu sgiliau bywyd cyhoeddus a gwleidyddol a chynyddu eu heffaith a’u dylanwad.
Meddai Rhian Parry, a dderbyniodd mentora ym 2019, Rhian Parry, “Gwnes i fwynhau pob rhan o’r cynllun a’r hyder a’i rhoddodd i mi. Cefais fy ysbrydoli gan gyfeillgarwch y gwleidyddion at ei gilydd, a’r menywod eraill ar y cynllun.”
Mae cyflawniadau’r menywod hyn wedi bod yn anhygoel, gyda nifer o fenywod yn cael eu hethol i gynghorau lleol, ennill swyddi ar fyrddau cyhoeddus a thrydydd sector a dylanwadu ar fywyd gwleidyddol a chyhoeddus drwy eu hyder newydd.
Ac ar ben popeth, llongyfarchiadau enfawr i Sarah Atherton AS, sydd wedi ennill ei sedd yn Wrecsam, gan fod yn un o’r AS benywaidd Ceidwadol cyntaf yng Nghymru, a’r cyntaf o’r sawl sydd wedi derbyn mentora gan RhCM i gael ei hethol i’r senedd.
Meddai Sarah Sweeney, Swyddog Mentora, “Mae wedi bod yn fraint o’r mwyaf i gefnogi’r menywod anhygoel hyn drwy’r cynllun. Mae eu gweld yn cymryd y camau roeddent yn fwy na pharod i’w cymryd, eu cael mewn sefyllfaoedd roeddent yn haeddu eu bod ynddynt, yn dyst gwych i’r cynllun a’r mentoriaid a’r siaradwyr anhygoel sy’n cefnogi RhCM Cymru.
Meddai Mia Rees, “Ers y cynllun, rwyf wedi dod yn gynghorydd lleol, wedi dod yn ymddiriedolwr ac wedi pasio fy mhanel Asesiad y Cynulliad. Gwnaeth y cynllun a’r menywod arno fy annog i fynd am y cyfleoedd hyn a byddaf yn ddiolchgar am hynny hyd fy oes.”
Mae’r ceisiadau ar gyfer Cynllun Mentora 2020 bellach ar agor! Felly, beth ydych yn aros amdano? Ymgeisiwch yma.
Dyddiad cau, 23 Chwefror 2020, ganol nos.
*Gall Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru gynnig nifer cyfyngedig o fwrsariaethau i helpu menywod sy’n byw yng Nghymru gyda chostau teithio, cefnogaeth a/neu lety. Mae’r bwrsariaethau er mwyn i fenywod fynychu digwyddiadau mentora RhCM a chwrdd â’i mentoriaid, os nad oeddent yn gallu gwneud hynny’n flaenorol.