Gall gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc bellach ffonio’r ‘Pwynt Mynediad Sengl Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl’ am gyngor ynghylch p’un a fydd atgyfeiriad at wasanaethau arbenigol yn diwallu anghenion unigolyn ac i gael gwybodaeth am y cymorth ehangach sydd ar gael.
Cyflwynwyd y Pwynt Mynediad Sengl i symleiddio’r broses atgyfeirio a gwella mynediad at wasanaethau.
Cewch wybod mwy am beth mae hyn yn ei olygu i blant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.
Ffoniwch 02921 836730
- Ymholiadau cyffredinol neu weinyddol, gan gynnwys siarad â deiliaid achos – Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am – 5pm.
- Llinell ymgynghoriad proffesiynol – Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am – 2pm.
- Galwadau argyfwng posibl – Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am – 5pm.
This post is also available in English by clicking the following link: https://c3sc.org.uk/emotional-wellbeing-and-mental-health-single-point-of-access/