Mae eich preifatrwydd yn hanfodol bwysig i ni.
Hysbysiad Preifatrwydd
Croeso i’n Polisi Preifatrwydd
Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) wedi’i leoli yma:
Trydydd Llawr, Tŷ Baltic, Sgwâr Mount Stuart, CaerdyddCF10 5FH – Caerdydd, y Deyrnas Unedig
02920485722
It is Cardiff Third Sector Council (C3SC)’s policy to respect your privacy regarding any information we may collect while operating our website. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i https://c3sc.org.uk/ (o hyn ymlaen, “ni” neu “https://c3sc.org.uk/”). Rydym yn parchu eich preifatrwydd ac rydym wedi ymroi i amddiffyn gwybodaeth bersonol a allai eich adnabod y byddwch efallai yn ei rhoi i ni drwy’r Wefan. Rydym wedi mabwysiadu’r polisi preifatrwydd hwn (“Polisi Preifatrwydd”) i egluro pa wybodaeth a fydd efallai’n cael ei chasglu ar ein Gwefan, sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon, ac o dan ba amgylchiadau y byddwn efallai’n datgelu’r wybodaeth i drydydd parti. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol yn unig i wybodaeth a gasglwn drwy’r Wefan ac nid yw’n berthnasol i’n prosesau casglu gwybodaeth o ffynonellau eraill.
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn, ynghyd â’r Telerau ac Amodau sydd ar ein Gwefan, yn cyflwyno’r rheolau cyffredinol a’r polisïau sy’n llywodraethu eich defnydd chi o’n Gwefan. Yn dibynnu ar eich gweithgareddau wrth ymweld â’n Gwefan, efallai y bydd gofyn i chi gytuno i delerau ac amodau ychwanegol.
Ymwelwyr â’r Wefan
Fel y mwyafrif o weithredwyr gwefannau, mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) yn casglu gwybodaeth nad yw’n adnabod pobl yn bersonol o’r math sydd fel arfer ar gael gan borwyr gwe a gweinyddion, megis y math o borwr, dewis iaith, safle cyfeirio, a dyddiad ac amser pob cais gan ymwelydd. Bwriad Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) wrth gasglu gwybodaeth nad yw’n adnabod pobl yn bersonol yw deall yn well sut mae ymwelwyr â gwefan Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) yn defnyddio ei wefan. O bryd i’w gilydd, efallai bydd Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) yn rhyddhau gwybodaeth nad yw’n adnabod pobl yn bersonol yn ei grynswth, e.e. drwy gyhoeddi adroddiad ar dueddiadau yn y defnydd o’i wefan.
Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) hefyd yn casglu gwybodaeth a allai adnabod pobl yn bersonol, fel cyfeiriadau Protocol Rhyngrwyd (IP) ar gyfer defnyddwyr sydd wedi’u mewngofnodi ac ar gyfer defnyddwyr sy’n gadael sylwadau ar flogiau https://c3sc.org.uk/. Dim ond o dan yr un amgylchiadau y mae’n defnyddio ac yn datgelu gwybodaeth sy’n adnabod pobl yn bersonol fel y disgrifir isod y mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) yn datgelu cyfeiriadau IP defnyddwyr wedi’u mewngofnodi a defnyddwyr sy’n gadael sylwadau.
Casglu Gwybodaeth sy’n Adnabod Pobl yn Bersonol
Mae rhai ymwelwyr â gwefannau Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) yn dewis rhyngweithio â Chyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) mewn ffyrdd sy’n ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) gasglu gwybodaeth sy’n eu hadnabod yn bersonol. Mae swm y wybodaeth a’r math o wybodaeth y mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) yn ei chasglu yn dibynnu ar natur y rhyngweithio. Er enghraifft, gofynnwn i ymwelwyr sy’n cofrestru ar gyfer blog yn https://c3sc.org.uk/ roi enw defnyddiwr a chyfeiriad e- bost.
Diogeledd
Mae diogeledd eich Gwybodaeth Bersonol yn bwysig i ni, ond cofiwch nad oes unrhyw ddull trosglwyddo dros y Rhyngrwyd, nac unrhyw ddull storio electronig yn 100% ddiogel. Er ein bod yn ymdrechu i ddefnyddio dulliau sy’n fasnachol dderbyniol i amddiffyn eich Gwybodaeth Bersonol, ni allwn warantu ei fod yn gwbl ddiogel.
Dolenni i Safleoedd Allanol
Efallai y bydd ein Gwasanaeth yn cynnwys dolenni i safleoedd allanol nad ydynt yn cael eu gweithredu gennym ni. Os byddwch chi’n clicio ar ddolen trydydd parti, fe’ch cyfeirir at safle’r trydydd parti hwnnw. Rydym yn eich cynghori’n gryf i adolygu Polisi Preifatrwydd a thelerau ac amodau pob gwefan rydych chi’n ymweld â hi.
Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys, polisïau preifatrwydd nac arferion unrhyw safleoedd, cynhyrchion na gwasanaethau trydydd parti, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb drostynt.
Cwcis
Er mwyn cyfoethogi a pherffeithio’ch profiad ar-lein, mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) yn defnyddio “Cwcis”, technolegau a gwasanaethau tebyg a ddarperir gan eraill i arddangos cynnwys wedi’i bersonoli a hysbysebu priodol, ac i storio eich dewisiadau ar eich cyfrifiadur.
Llinyn o wybodaeth yw cwci y mae gwefan yn ei storio ar gyfrifiadur ymwelydd, ac y mae porwr yr ymwelydd yn ei roi i’r wefan bob tro y bydd yr ymwelydd yn dychwelyd. Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) yn defnyddio cwcis i helpu Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) i adnabod ac olrhain ymwelwyr, eu defnydd o https://c3sc.org.uk/, a’u dewisiadau mynediad ar gyfer y wefan. Dylai ymwelwyr â Chyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) nad ydynt am gael cwcis wedi’u gosod ar eu cyfrifiaduron osod eu porwyr i wrthod cwcis cyn defnyddio gwefannau Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC), gyda’r anfantais y bydd rhai o nodweddion gwefannau Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) efallai ddim yn gweithio’n iawn heb gymorth cwcis.
Trwy barhau i lywio ein gwefan heb newid eich gosodiadau cwcis, rydych chi trwy hyn yn cydnabod ac yn cytuno bod Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) yn defnyddio cwcis.
Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd
Er bod y mwyafrif o’r newidiadau yn debygol o fod yn rhai bach, efallai y bydd Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) yn newid ei Bolisi Preifatrwydd o bryd i’w gilydd, ac yn ôl disgresiwn llwyr Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC). Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) yn annog ymwelwyr i ddarllen y dudalen hon yn aml am unrhyw newidiadau i’w Bolisi Preifatrwydd. Os parhewch i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl unrhyw newid i’r Polisi Preifatrwydd hwn, golyga hynny eich bod yn derbyn newid o’r fath.
Gwybodaeth Gyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Polisi Preifatrwydd hwn, cysylltwch â ni trwy e-bost neu’r ffôn.