Cyhoeddwyd : 02/04/20 | Categorïau: Dylanwadu,Gwybodaeth a chymorth,
Gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddiad yn ddiweddar yn nodi y byddai deddfwriaeth frys yn llacio ar reolau gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yng nghanol y pandemig coronafeirws.
Ni fydd hyn yn cael gwared yn llwyr ar wiriadau, ond yn hytrach yn caniatáu defnyddio gwiriad a wnaed eisoes mewn un mudiad mewn mudiad arall. Bwriad hyn yw caniatáu i fwy o bobl wirfoddoli’n haws a’u galluogi i gael eu defnyddio â llai o drafferth yn yr ardaloedd sydd â’r mwyaf o angen.
Mae CGGC wedi ysgrifennu papur briffio sy’n amlygu’r hyn sydd angen i’r sector wirfoddol wybod ynglŷn â gwiriadau GDG wrth i argyfwng COVID-19 fynd rhagddo.
Mae’r papur yn ymdrin â’r canlynol:
- Y broses sydd ynghlwm â gwiriadau sylfaenol
- Geiriad awgrymedig ar gyfer ffurflen ddatgelu
- Canllaw os oes gan eich gwirfoddolwyr newydd dystysgrif GDG eisoes
- Sut i edrych ar dystysgrifau GDG trwy feddalwedd fideogynadledda
- Gwiriadau GDG symudol ffurfiol ac anffurfiol
- Nodyn atgoffa ar gyfer ymgeisio am wiriad newydd am y tro cyntaf
- Canllawiau ar wiriadau cyntaf oedolion
- Rhai cysylltiadau defnyddiol
Dywedodd Suzanne Mollison, Swyddog Diogelu CGGC: “Bu ymateb y gymuned wrth gwrdd ag anghenion y rheiny sydd fwyaf agored i niwed yn ystod epidemig y coronafeirws yn anhygoel – yn ysgubol, hyd yn oed. Mae’n hynod bwysig fod pawb wedi’u diweddaru â’r canllawiau diweddaraf, o bob ffynhonnell ddibynadwy, ynghylch cadw’u hunain a phawb o’u cwmpas yn ddiogel. Mae’r sefyllfa o’n cwmpas yn newid yn gyflym iawn, ond dylai ein hymateb ninnau fod yn bwyllog a, lle bo’n bosibl, yn ddigynnwrf. Gallem deimlo fel pe bai pwysau arnom i gyflawni ar frys, ond rhaid i ni gynllunio fel pe baem yn adeiladu ar gyfer yr hir dymor.
“Mae gwiriadau GDG yn offeryn hanfodol bwysig er mwyn rhwystro pob math o niwed a chamdriniaeth wrth i wirfoddolwyr a gwasanaethau newydd ddechrau gweithredu. Fel sy’n wir am offer o bob math rhaid i ni eu defnyddio’n synhwyrol, ac yng nghyd-destun ehangach arfer dda o ran diogelu. Gallai’r amgylchiadau osod y rheiny sy’n agored i niwed o dan fwy o fygythiad nas gwelwyd o’r blaen a rhaid i ni beidio ag anghofio hynny byth.”
Darllenwch y papur briffio llawn yma.
Mae CGGC yn cyhoeddi papur briffio dyddiol ar ymateb y sector gwirfoddol i’r argyfwng coronafeirws. Gallwch gofrestru i’w dderbyn yma.
https://wcva.cymru/cy/cggc-yn-lansio-canllawiau-ar-wiriadau-gdg-yng-nghanol-argyfwng-covid-19/