Cydnabod gweithwyr allweddol Gofal Cymdeithasol
Rydym wedi bod yn bryderus iawn ynghylch y heriau y mae gweithwyr gofal cymdeithasol wedi’u hwynebu wrth dderbyn y buddion a’r gydnabyddiaeth fel gweithwyr allweddol, yn enwedig ochr yn ochr â gweithwyr y GIG ar yr adeg hon. Un o’r rhwystrau mwyaf rydym wedi ei gael o ganlyniad i hyn yw diffyg pwynt cydnabyddiaeth cyffredin i weithwyr gofal cymdeithasol. Fel ymateb uniongyrchol byddwn yn lansio cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol, gyda chefnogaeth Arolygiaeth Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd y cerdyn ar gael mewn fformat ddigidol a chorfforol i weithwyr ar draws y gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gynnar yr wythnos nesaf.
Mae ein Cadeirydd wedi gofyn i’r Prif Weinidog lansio’r cerdyn, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ennill cydnabyddiaeth i weithwyr gofal cymdeithasol ar drafnidiaeth, gydag archfarchnadoedd ac ati. Bydd hyn yn mynd ochr yn ochr ag ymgyrch i barhau i gydnabod pwysigrwydd y sector gofal cymdeithasol yn ein hymateb i Covid 19. Byddem yn croesawu eich cefnogaeth i’r ymgais hon, pan fyddwn yn gwybod cynlluniau ar gyfer y lansiad byddwn yn anfon copïau o’r datganiad newyddion; Cwestiynau Cyffredin a ffyrdd ymarferol eraill y gallwch efallai eu cefnogi. Mae Sarah McCarty yn goruchwylio’r fenter hon felly cysylltwch â hi os ydych am drafod rhagor sarah.mccarty@socialcare.wales.
Newidiadau Rheoleiddio
Rydym wedi newid ein gofynion rheoleiddio mewn nifer o feysydd er mwyn cefnogi’r sector, gallwch ddarganfod mwy am yr hyblygrwydd a gyflwynir yma: https://gofalcymdeithasol.cymru/amdanom-ni/coronafirws-a-sut-y-gallai-hyn-effeithio-arnoch-chi David Pritchard yw ein Cofrestrydd a gallwch gysylltu ag ef ar david.pritchard@socialcare.wales
Ymgyrch Gofalalwn a chefnogaeth i’r gweithlu
Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r prinder staff y mae’r sector yn eu hwynebu, ac i’ch helpu i ddod o hyd i’r bobl iawn i lenwi eich swyddi gwag, rydym wedi adeiladu ar yr ymgyrch Gofalwn, sy’n eiddo i’r sector, i ychwanegu porth swyddi sy’n rhestru swyddi gofal cymdeithasol cyfredol yng Nghymru www.gofalwn.cymru/swyddi/ Gall cyflogwyr ychwanegu eu swyddi gwag am ddim trwy gynnwys yr hashnod #SwyddiGofalwnCymru gyda’u rôl ar twitter. Rydym yn ariannu swydd cysylltydd rhanbarthol ym mhob rhanbarth yng Nghymru i gefnogi recriwtio, ac yn ystod y pandemig rydym yn cwrdd yn wythnosol er mwyn ymateb i heriau recriwtio.
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau recriwtio diogel mewn partneriaeth â AGC i gynnig cefnogaeth bellach ar yr adeg hon a hefyd canllawiau i gefnogi’r defnydd o wirfoddolwyr mewn partneriaeth â CGGC ac AGC a fydd ar gael ar ein gwefan.
Mae mesur iechyd a lles y gweithle yn hanfodol ar hyn o bryd ac rydym hefyd wedi ceisio dod â ffynonellau cymorth at ei gilydd ar hyn o bryd https://gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/adnoddau-gefnogi-eich-iechyd-a-llesiant-yn-ystod-y-pandemig-coronafeirws-covid-19 Cysylltwch â Jon Day jon.day@socialcare.wales i gael mwy o wybodaeth am y meysydd gwaith hyn.
Mynediad at wybodaeth allweddol Rydym yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i ymateb i anghenion am wybodaeth ac ymatebion mewn perthynas â Covid-19. Byddwn yn tynnu at ein gilydd ac yn darparu dolenni i wybodaeth allweddol; gan gynnwys adnoddau hyfforddi, bydd hwn ar gael ar ein gwefan. Er enghraifft mae rhai o’r meysydd sy’n cael eu datblygu yn cynnwys: Trosolwg o’r hyn sydd wedi newid gyda gallu meddyliol; Trosolwg o’r fframwaith moesegol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol; Gweithgareddau i bobl â dementia; Helpu perthnasau i gadw mewn cysylltiad â phobl mewn cartrefi gofal. Os oes meysydd lle hoffech i ni geisio’r ymchwil neu’r wybodaeth ddiweddaraf, e-bostiwch research@socialcare.walesgyda’ch cais.