CommunicationsCOVID-19 Coronavirus Information HubCymraegUncategorised

Diweddariadau allweddol gan Gofal Cymdeithasol Cymru

Share this article

Cydnabod gweithwyr allweddol Gofal Cymdeithasol

Rydym wedi bod yn bryderus iawn ynghylch y heriau y mae gweithwyr gofal cymdeithasol wedi’u hwynebu wrth dderbyn y buddion a’r gydnabyddiaeth fel gweithwyr allweddol, yn enwedig ochr yn ochr â gweithwyr y GIG ar yr adeg hon. Un o’r rhwystrau mwyaf rydym wedi ei gael o ganlyniad i hyn yw diffyg pwynt cydnabyddiaeth cyffredin i weithwyr gofal cymdeithasol. Fel ymateb uniongyrchol byddwn yn lansio cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol, gyda chefnogaeth Arolygiaeth Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd y cerdyn ar gael mewn fformat ddigidol a chorfforol i weithwyr ar draws y gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gynnar yr wythnos nesaf.

Mae ein Cadeirydd wedi gofyn i’r Prif Weinidog lansio’r cerdyn, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ennill cydnabyddiaeth i weithwyr gofal cymdeithasol ar drafnidiaeth, gydag archfarchnadoedd ac ati. Bydd hyn yn mynd ochr yn ochr ag ymgyrch i barhau i gydnabod pwysigrwydd y sector gofal cymdeithasol yn ein hymateb i Covid 19. Byddem yn croesawu eich cefnogaeth i’r ymgais hon, pan fyddwn yn gwybod cynlluniau ar gyfer y lansiad byddwn yn anfon copïau o’r datganiad newyddion; Cwestiynau Cyffredin a ffyrdd ymarferol eraill y gallwch efallai eu cefnogi. Mae Sarah McCarty yn goruchwylio’r fenter hon felly cysylltwch â hi os ydych am drafod rhagor [email protected].

Newidiadau Rheoleiddio
Rydym wedi newid ein gofynion rheoleiddio mewn nifer o feysydd er mwyn cefnogi’r sector, gallwch ddarganfod mwy am yr hyblygrwydd a gyflwynir yma: https://gofalcymdeithasol.cymru/amdanom-ni/coronafirws-a-sut-y-gallai-hyn-effeithio-arnoch-chi David Pritchard yw ein Cofrestrydd a gallwch gysylltu ag ef ar [email protected] 

Ymgyrch Gofalalwn a chefnogaeth i’r gweithlu
Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r prinder staff y mae’r sector yn eu hwynebu, ac i’ch helpu i ddod o hyd i’r bobl iawn i lenwi eich swyddi gwag, rydym wedi adeiladu ar yr ymgyrch Gofalwn, sy’n eiddo i’r sector, i ychwanegu porth swyddi sy’n rhestru swyddi gofal cymdeithasol cyfredol yng Nghymru www.gofalwn.cymru/swyddi/  Gall cyflogwyr ychwanegu eu swyddi gwag am ddim trwy gynnwys yr hashnod #SwyddiGofalwnCymru gyda’u rôl ar twitter. Rydym yn ariannu swydd cysylltydd rhanbarthol ym mhob rhanbarth yng Nghymru i gefnogi recriwtio, ac yn ystod y pandemig rydym yn cwrdd yn wythnosol er mwyn ymateb i heriau recriwtio.

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau recriwtio diogel mewn partneriaeth â AGC i gynnig cefnogaeth bellach ar yr adeg hon a hefyd canllawiau i gefnogi’r defnydd o wirfoddolwyr mewn partneriaeth â  CGGC ac AGC a fydd ar gael ar ein gwefan.

Mae mesur iechyd a lles y gweithle yn hanfodol ar hyn o bryd ac rydym hefyd wedi ceisio dod â ffynonellau cymorth at ei gilydd ar hyn o bryd https://gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/adnoddau-gefnogi-eich-iechyd-a-llesiant-yn-ystod-y-pandemig-coronafeirws-covid-19  Cysylltwch â Jon Day [email protected]  i gael mwy o wybodaeth am y meysydd gwaith hyn.

Mynediad at wybodaeth allweddol Rydym yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i ymateb i anghenion am wybodaeth ac ymatebion mewn perthynas â Covid-19. Byddwn yn tynnu at ein gilydd ac yn darparu dolenni i wybodaeth allweddol; gan gynnwys adnoddau hyfforddi, bydd hwn ar gael ar ein gwefan. Er enghraifft mae rhai o’r meysydd sy’n cael eu datblygu yn cynnwys: Trosolwg o’r hyn sydd wedi newid gyda gallu meddyliol; Trosolwg o’r fframwaith moesegol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol; Gweithgareddau i bobl â dementia; Helpu perthnasau i gadw mewn cysylltiad â phobl mewn cartrefi gofal. Os oes meysydd lle hoffech i ni geisio’r ymchwil neu’r wybodaeth ddiweddaraf, e-bostiwch [email protected]’ch cais.

 


 

https://socialcare.wales/

Free Online Training – Don’t Hate, Educate EA
COVID 19 New Funding Opportunities

Join Our Community

C3SC’s Community Platform is a free virtual social network for residents of Cardiff to follow discussions on various social and or business topics, get support to run or start a project, Community Interest group or charity, find funding, share documents and photos, follow and meet new friends, find jobs and volunteering opportunities, find, rate and provide your feedback to us and other organisations.

Join Our
Community

noun Community 1852937

C3SC’s Community Platform is a free virtual social network for residents of Cardiff. Register now to share your views, contribute to your community and provide your feedback to us and other organisations.

Please note that C3SC cannot take responsibility for the information other organisations produce, for example, in their resources, and on their websites. The views of other organisations are not necessarily the views of C3SC.

You might also like:

Stay Connected

Instagram
YouTube
Fill out this field
Please enter a valid email address.
Fill out this field
Skip to content