Ysgrifennwyd y canllaw hwn i helpu i gefnogi ac arwain yr ymateb cymunedol anhygoel i gefnogi eraill yn sgil Covid-19. Mae wedi’i anelu at bobl sy’n dymuno gwirfoddoli, pobl sy’n gwirfoddoli ar hyn o bryd a chydlynwyr gwirfoddolwyr sy’n ymateb i angen cymunedol yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Mae’n cynnwys:
• Rhagarweiniad – beth i feddwl amdano, a ble i gael cymorth
• Gwirfoddoli – faswn i’n gallu? ddylwn i wneud? a sut?
• Dewisiadau gwirfoddoli – ffynonellau gwybodaeth a chyfleoedd
• Dechrau gweithredoedd cymunedol newydd – canllaw a deg o gynghorion da
• Pethau i’w gwneud ac i beidio â’u gwneud – i gydlynu’n dda ac yn ddiogel
• Canllawiau ar gyfer diogelu – i helpu i gadw pawb yn ddiogel
• Arweiniad i’r bobl a fydd yn cael y budd – i’w cadw eu hunain yn ddiogel
• Rheoli gwirfoddolwyr a’u hymddygiad – i’w ‘rheoli’ o bell
• Adleoli’r gweithlu gwirfoddol – ‘ail-siapio’ yr hyn a wnawn, a sut
• Trafodion ariannol – atal camdriniaeth, twyll a lladrad
• Awgrymu cyfleoedd i wirfoddoli – gyda manylion defnyddiol
• Atgoffa am wiriadau DBS – beth sydd wedi newid, a beth sydd heb newid
• Adnoddau defnyddiol eraill – detholiad o ddolenni defnyddiol
Gobeithio y bydd y canllaw hwn yn fuddiol. Byddwn ni’n diweddaru’r wybodaeth fel y bo angen wrth i bethau newid, ac i ymateb i’ch anghenion chi. Rhowch wybod sut gallwn ni eich helpu: safeguarding@wcva.cymru
(Cliciwch ar y ddolen uchod)
https://wcva.cymru/wp-content/uploads/2020/03/Ymateb-cymunedol-i-Covid-19.pdf