2pm Dydd Gwener 22 Tachwedd, TC013, Ty Crawshay, Prifysgol De Cymru (Campws Trefforest)
Yr Arglwydd Lloyd-Jones, Ustus Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig
Materion Tramor a Llysoedd Cartref: Gweddnewidiad / Foreign Affairs and Domestic Courts: a Sea Change
Y Gyfadran Busnes a Chymdeithas, Prifysgol De Cymru mewn cysylltiad â Chymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae’r ganrif ddiwethaf wedi gweld twf corff sylweddol o gyfraith ryngwladol yn rheoli’r perthnasoedd rhwng gwladwriaethau cenedlaethol y byd, ond gallai’r defnydd cynyddol a wneir ohoni i amddiffyn hawliau unigolion wneud y ffin rhwng awdurdodaethau cenedlaethol a rhyngwladol yn amhendant iawn. Pa egwyddorion allai arwain datrys anghydfodau yn y maes cynyddol gymhleth hwn?I fynd i’r afael â’r materion hyn, mae’n bleser gennym groesawu i’r Brifysgol un o’r arbenigwyr mwyaf blaenllaw yn y DU ar gyfraith gyhoeddus ryngwladol. Cafodd yr Arglwydd Lloyd-Jones ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn ym Mhontypridd a Choleg Downing, Caergrawnt. Cafodd ei alw i’r bar ym 1975, ac fe’i penodwyd yn ddiweddarach yn Gwnsler y Frenhines ym 1999. Mae’r Arglwydd Lloyd-Jones wedi gweithredu mewn nifer o achosion proffil uchel, gan gynnwys achos estraddodi Pinochet ac ymchwiliadau ‘Sul y Gwaed’ a Hutton. Fe’i penodwyd yn Ustus Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yn 2017.
Mae lleoedd ar gyfer y sesiwn hon yn gyfyngedig, a disgwyliwn y bydd galw mawr amdanynt. Cadwch eich lle yma: https://www.southwales.ac.uk/about/events/global-choices/book-tickets/
2pm Friday 22ndNovember, TC013, Ty Crawshay, University of South Wales (TreforestCampus)
Lord Lloyd-Jones, Justice of the Supreme Court of the United Kingdom
Foreign Affairs and Domestic Courts: a Sea Change
Faculty of Business and Society, USW in association with the Learned Society of Wales.
The last century has witnessed the growth of a substantive body of international law governing the relations between the world’s nation-states, but its increased use to protect the rights of individuals represents a potentially significant blurring of the boundary between national and international jurisdictions. What principles might guide the resolution of disputes in this increasingly complex field? To address these matters, we are delighted to welcome to the university one of the foremost experts in the UK on international public law. Lord Lloyd-Jones was educated at Pontypridd Boys’ Grammar School and Downing College, Cambridge. Called to the bar in 1975, he was later appointed Queen’s Counsel in 1999. Lord Lloyd-Jones has acted in numerous high profile proceedings, including the Pinochet extradition litigation and the ‘Bloody Sunday’ and Hutton inquiries. He was appointed as a JusticeofThe Supreme Court of the United Kingdom in 2017.
Places for this session are limited and we expect demand to be high. Please reserve your space here:https://www.southwales.ac.uk/about/events/global-choices/book-tickets/