Make sure you’re engaging as effectively as possible – learn how to develop a strategy for engagement.
Aim
To enable you to better plan an engagement strategy for your organisation.
Content
Failing to plan means planning to fail – especially when it comes to public engagement. This half day course will help you plan an engagement strategy, so that you know you’ve done everything you can to connect effectively.
You’ll use a variety of participatory tools and activities to plan an engagement strategy with an action plan for engagement. The course will use the National Principles for Public Engagement in Wales as the basis for planning your strategy.
This half day course complements the modular 2-3 day Public Engagement Course[link]but is also suitable as a standalone course.
Learning outcomes
By the end of the course you will be able to:
Use the National Principles in creating an engagement strategy.
Identify who you need to engage
Identify methods of engagement to be implemented in your strategy
Plan the timescale for a strategy and accompanying action plan
Who this course is for
Engagement Officers, Managers, or others who need to engage with the public and who would like to develop a more systematic and strategic approach to public engagement.
Eich galluogi i gynllunio strategaeth ymgysylltu yn well ar gyfer eich mudiad.
Cynnwys
Cynllunio i fethu yw methu â chynllunio – yn enwedig pan ddaw hi at ymgysylltu â’r cyhoedd. Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn eich helpu i gynllunio strategaeth ymgysylltu, fel y gwyddoch eich bod wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i gysylltu’n effeithiol.
Byddwch yn defnyddio dulliau a gweithgareddau cyfranogol amrywiol i gynllunio strategaeth ymgysylltu gyda chynllun gweithredu cysylltiedig. Bydd y cwrs yn defnyddio’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru fel sail i gynllunio’ch strategaeth.
Mae’r cwrs hanner diwrnod hwn yn ategu’r cwrs modiwlar 2-3 diwrnod, Ennyn Diddordeb y Cyhoedd[link]ond mae’n addas hefyd fel cwrs ar ei ben ei hun.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn:
Gallu defnyddio’r Egwyddorion Cenedlaethol wrth greu strategaeth ymgysylltu
Gwybod â phwy y mae angen i chi ymgysylltu
Gallu dewis dulliau ymgysylltu i’w rhoi ar waith yn eich strategaeth
Gallu cynllunio’r amserlen ar gyfer strategaeth a chynllun gweithredu cysylltiedig
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Rheolwyr, Swyddogion Ymgysylltu, neu eraill sydd angen ennyn diddordeb y cyhoedd ac a hoffai ddatblygu ffordd fwy systematig a strategol o ymgysylltu â’r cyhoedd.