Cynnwys Mae cryn dipyn o gyfrifoldeb ar reolwyr llinell yn y trydydd sector sy’n gofyn am lawer mwy na dim ond dirprwyo tasgau neu gymeradwyo ceisiadau. Fel rheolwr llinell, rydych yn gyfrifol am gyfleu negeseuon yn effeithiol i’ch tîm, canfod cyfleoedd datblygu a rhoi cymorth uniongyrchol i aelodau o’ch tîm. Bydd y cwrs tridiau hwn yn canolbwyntio ar arferion gorau ar gyfer cynefino, goruchwylio, arfarnu, monitro perfformiad, cefnogi staff a thimau, a datblygu unigolion. Cewch gyfleoedd ymarferol i wella ac ymarfer eich sgiliau goruchwylio, yn ogystal â rhoi’ch gwybodaeth a’ch sgiliau newydd ar waith yn ôl yn eich mudiad, eich prosiect neu’ch cymuned. Bydd y cwrs hyfforddi ymarferol hwn yn defnyddio dulliau hyfforddi amrywiol, gan gynnwys cyflwyniadau, gwaith mewn grwpiau bach, trafodaethau ac ymarferion. Byddwch hefyd yn cael deunydd a ddosbarthir yn y cwrs ac adnoddau eraill i’w cadw ar ôl y cwrs. |