Yn ystod Wythnos Addysg Oedolion eleni, sydd â’r nod o hyrwyddo’r cyfryngau cymdeithasol fel adnodd ar gyfer datblygu a dysgu proffesiynol, mae Cymunedau Digidol Cymru yn eich gwahodd i ymuno â ni yn ein sgwrs drydar gyntaf. Bydd aelodau o’r tîm hyfforddi a chynghorwyr wrth law i hwyluso’r drafodaeth. Mae sgwrs Twitter / sgwrs drydar yn sgwrs gyhoeddus sy’n defnyddio un hashnod. Rydych yn defnyddio’r hashnod i ddilyn yr hyn sy’n cael ei ddweud ac i gyfrannu at y sgwrs. Ymunwch â ni rhwng 12:30-1:30 ddydd Mawrth 20 Mehefin ar Twitter. Dilynwch@DC_Wales i gael y negeseuon atgoffa diweddaraf a rhagolwg o gwestiynau’r sesiwn.Mae’n hawdd dilyn neu ymuno â’r sgwrs gan ddefnyddio #dcwtweetchat, a chyfrannu at ateb y cwestiynau yn ogystal â chael cyngor ac ysbrydoliaeth gan eraill |