Gwobrau Gwirfoddoli Caerdydd yw seremoni wobrwyo flynyddol C3SC a gynhelir i ddathlu gwirfoddoli yng Nghaerdydd. Mae’n gyfle i gydnabod cyfraniadau a chyflawniadau gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau am eu gwaith caled ac am fynd yr ail filltir i gefnogi pawb yn ein cymunedau. Nid yn unig y mae Gwobrau Gwirfoddoli Caerdydd yn rhoi cyfle i ni yma yn C3SC ddiolch a gwobrwyo ein holl wirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau am eu cefnogaeth anhygoel, ond hefyd cyfle i aelodau’r cyhoedd wneud yr un peth drwy enwebu gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau yng Nghaerdydd a wnaeth wahaniaeth iddyn nhw a eu cymuned.
