Llywodraethu Da

Gallwn eich helpu gyda diwydrwydd dyladwy a gwirio iechyd eich sefydliad: datblygu polisïau priodol, adolygu strwythurau llywodraethu a staff, hyfforddiant a gweithredu arferion gorau.

Ein prif flaenoriaeth yw cynnig pecyn o gefnogaeth i alluogi Ymddiriedolwyr gwasanaethau trydydd sector lleol rannu a datblygu arferion da ar gyfer llywodraethu a rheolaeth ariannol. Bydd hyn yn helpu mwy o wasanaethau a gweithgareddau’r trydydd sector i wneud cyfraniad cynaliadwy at les yn y gymuned.

Gwybodaeth hygyrch

Rhoi cymorth ymarferol a gwybodaeth, cyngor ac offer hygyrch i alluogi aelodau i weithredu’n gyfreithlon ac yn effeithiol ac i weithredu arferion da ar gyfer llywodraethu a Rheolaeth Ariannol.

Annog

Annog safon ofynnol ar gyfer ansawdd arweinyddiaeth ar draws y trydydd sector – cyfeirio sefydliadau at safonau ansawdd perthnasol a’u cefnogi i weithio tuag at wneud gwelliannau parhaus.

Hyrwyddo cyfleoedd

Cynnal digwyddiadau – i ddathlu, i baru ymddiriedolwyr – sy’n cynnig cyfleoedd i gydweithio, cefnogi cymheiriaid ac arloesi, ac er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd, y gwerth a’r cyfraniad y mae ymddiriedolwyr yn eu cynnig i gymdeithas Caerdydd.

Cynyddu

Cynyddu nifer yr ymddiriedolwyr o bob grŵp oedran, cefndir a chymdogaeth yng Nghaerdydd, yn enwedig ar gyfer pobl sy’n dod o’r ardaloedd a’r grwpiau mwyaf difreintiedig ac sydd wedi’u tangynrychioli fwyaf.

Y cyd-destun cyfredol

Mae adborth anffurfiol yn awgrymu bod angen hybu bod yn ymddiriedolwr fel opsiwn ar gyfer gwirfoddoli – nid yw llawer o bobl yn ystyried y gallant wneud cyfraniad, yn enwedig y rheini sydd o gefndiroedd a grwpiau poblogaeth llai traddodiadol.

Mae llywodraethu effeithiol yn nodwedd sy’n codi’n aml wrth ddod i ddeall pryderon a datblygu datrysiadau ar draws yr amrywiaeth o ymholiadau a ddaw i ni.

Mae bod yn ymddiriedolwr yn mynd yn fwy cymhleth, yn sgil yr amgylchedd gweithredu heriol yng nghyd-destun ansefydlogrwydd ac ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd, a hefyd yn sgil gofynion deddfwriaethol cynyddol.

Mae pwysau cyllido ar sefydliadau lleol ar yr un pryd â galw cynyddol am wasanaethau hefyd yn gofyn am ffyrdd newydd o weithio – megis comisiynu, masnachu, cydweithio a phartneriaethau.

Skip to content