Loading Events

“Cadw Ein Plant Yn Ddiogel” Hyfforddiant i’r Person Dynodedig Ar Gyfer Amddiffyn Plant

24th September 2014 - 25th September 2014

 

Cwrs Deuddydd Plant Yng Nghymru 

This is an advert for a Welsh Medium Course “Keeping our Children Safe” Training for the Designated

Person for Child Protection 

 

Mae gan bob plentyn yr hawl i fyw eu bywyd heb ddioddef camdriniaeth nac esgeulustod, ond mae digwyddiadau diweddar yn amlygu unwaith eto, pa mor anodd y gall fod i oedolion adnabod, a gweithredu ar sail pryderon ynghylch diogelwch neu les plentyn. Mae Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn yn datgan y dylai pob sefydliad sy’n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn. Mae rôl hanfodol i’r Person Dynodedig ar gyfer Amddiffyn Plant mewn sefydliadau, yn helpu i sicrhau bod mesurau diogelu digonol yn eu lle, a bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd pan fynegir pryderon ynghylch plentyn. Bydd yr hyfforddiant deuddydd hwn yn ystyried y canlynol:

– Rôl y Person Dynodedig a sut gellir ymgorffori’r rôl honno yn eich sefydliad
– Deddfwriaeth a chanllawiau ar ddiogelu plant a phobl ifanc, yn enwedig yn y cyd-destun Cymreig
– Mesurau diogelu hanfodol y mae angen eu rhoi ar waith
– ‘Camddefnyddio ymddiriedaeth’ a sut mae parhau’n effro i droseddau rhywiol posibl o fewn y sefydliad
– Asesu pryderon am blentyn, a chyfeirio’r achos at y gwasanaethau cymdeithasol os bydd angen
– Y system amddiffyn plant statudol a’r hyn y gellir ei ddisgwyl gennych
– Cyfrinachedd a chadw cofnodion da
– Amrywiaeth a nodweddion ychwanegol sy’n gwneud rhai plant yn arbennig o agored i niwed. 

Aelodau £165

Heb fod yn Aelod £195

Ffurflen Archebu

 

Share This Event

  • This event has passed.

Details

  • Start: 24th September 2014
  • End: 25th September 2014
  • Event Category:

Venue