Residents in parts of Cardiff can now apply to a new pilot scheme designed to make homes warmer, healthier and cheaper to run.
Tai Clyd Caerdydd gives households in Fairwater, Adamsdown and parts of neighbouring Splott access to trusted energy efficiency advice, support and, where eligible, funding for home improvements.
Delivered in partnership by Cardiff Council and Welsh Government, the scheme aims to help residents improve their home’s energy performance, reduce energy bills and lower carbon emissions.
Through the scheme, residents can access:
- Free whole-house assessments and independent advice on potential improvements.
- Access to Welsh Government-vetted installers.
- Help identifying funding options, including fully-funded improvements for eligible households experiencing fuel poverty.
- Support for homeowners and landlords across all private housing tenures.
The pilot will test an approach that could be rolled out more widely across Cardiff and Wales in the future if successful. The pilot areas were selected to reflect the variety of homes and communities found across Wales and cover a broad mix of housing types and income levels.
For more information and to apply, residents can visit:
www.cardiff.gov.uk/taiclydcaerdyddscheme
Ceisiadau ar agor ar gyfer cynllun effeithlonrwydd ynni cartrefi Caerdydd
Gall trigolion mewn rhannau o Gaerdydd nawr wneud cais am gynllun peilot newydd sydd wedi’i gynllunio i wneud cartrefi yn gynhesach, yn iachach ac yn rhatach i’w rhedeg.
Mae Tai Clyd Caerdydd yn galluogi aelwydydd yn y Tyllgoed, Adamsdown a rhannau cyfagos o’r Sblot i gael cyngor, cymorth ac, os ydyn nhw’n gymwys, cyllid ar gyfer gwelliannau i’r cartref.
Nod y cynllun, sydd wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, yw helpu trigolion i wella perfformiad ynni eu cartrefi, lleihau biliau ynni a lleihau allyriadau carbon.
Trwy’r cynllun, gall trigolion gael mynediad at:
- Asesiadau tŷ cyfan a chyngor annibynnol ar welliannau posib am ddim.
- Gosodwyr a wiriwyd gan Lywodraeth Cymru.
- Help i nodi opsiynau ariannu, gan gynnwys gwelliannau wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer aelwydydd cymwys sy’n profi tlodi tanwydd.
- Cymorth i berchnogion tai a landlordiaid ar draws pob deiliadaeth breifat.
Bydd y cynllun peilot yn profi dull y gellid ei gyflwyno’n ehangach ledled Caerdydd a Chymru yn y dyfodol os bydd yn llwyddiannus. Dewiswyd yr ardaloedd peilot i adlewyrchu’r amrywiaeth o gartrefi a chymunedau ledled Cymru, ac i gwmpasu cyfuniad eang o fathau o dai a lefelau incwm.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, gall trigolion ymweld â www.cardiff.gov.uk/taiclydcaerdyddscheme

