Ydych chi wedi rhoi ‘Building a Co-operative Country’ yn eich dyddiadur eto? Mae’r paratoadau ar gyfer ‘Building a Co-operative Country’, cynhadledd Cynghrair y Cwmnïau Cydfuddiannol, yn dod yn eu blaen yn dda ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gychwyn y drafodaeth yn Stadiwm Principality ddydd Gwener 23 Mehefin. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i chi am eich holl syniadau ac awgrymiadau ynghylch siaradwyr a phynciau. Dyma grynodeb o’r hyn sydd eisoes ar y rhaglen: • Derek Walker, Canolfan Cydweithredol Cymru, ac Adrian Roper, Cwmni Cydweithredol Cartrefi Cymru Croeso a sylwadau agoriadol • Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Sut allwn ni greu diwylliant sy’n cynnwys egwyddorion cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol a dulliau cydweithredol yn rhan annatod o fywyd Cymru? • Keith Edwards Ai cwmni cydfuddiannol yw’r ateb? • Ffocws ar sector Dysgwch fwy am y gwaith rhagorol a blaengar sy’n cael ei wneud yn y sectorau tai cydweithredol, gofal cymdeithasol ac ynni • Gweithdy Sut mae’r sector cwmnïau cydweithredol yn tyfu ac ehangu? • Barn Llywodraeth Cymru Amlinelliad o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rôl cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus Dewch i ddysgu sut mae’r dull cydweithredol yn rhoi mantais gystadleuol i Gymru. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno! Dyddiad: Dydd Gwener 23 Mehefin 2017 Pris: £10 yn cynnwys TAW Lleoliad: Stadiwm Principality, Caerdydd Noddwyr: Cartrefi Cymru, Cartrefi Cymoedd Merthyr, Canolfan Cydweithredol Cymru Cysylltu â ni: events@wales.coop #CoopCountry |