Loading Events

Hyfforddiant Comisiynydd y Gymraeg – Datblygu gwasanaethau dwyieithog

16th December 2013 @ 9:30 am - 4:30 pm

CWRS CYFRWNG CYMRAEG

Hyfforddiant ymarferol yw hwn sy’n cynghori sefydliadau ar gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd yng Nghymru.
Cynnwys yr hyfforddiant yw:
– Gosod y cyd-destun: hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith Gymraeg
– Asesu darpariaeth ddwyieithog bresennol
– Cyngor penodol ar ystyried y Gymraeg wrth recriwtio, cyfieithu, technoleg a dylunio
– Paratoi cynllun gweithredu ar gyfer datblygu gwasanaethau dwyieithog
Mae’r hyfforddiant wedi’i anelu at sefydliadau trydydd sector sydd am ddatblygu eu gwasanaethau dwyieithog o’r newydd neu sydd am adnewyddu eu hymrwymiad i’r Gymraeg. Fe fydd y cwrs yn berthnasol i swyddogion polisi a rheolwyr.

Ar gyfer sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ar ran Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd.

Fe fydd y cyrsiau yn cael eu cyflwyno gan Trywydd Cyf ar ran Comisiynydd y Gymraeg. Ni fydd y Comisiynydd yn codi tâl am y cyrsiau ac fe fydd rhestr o’r sefydliadau sy’n mynychu’r hyfforddiant yn cael ei rhannu gydag arianwyr a chomisiynwyr perthnasol.
I gofrestru, cysylltwch â Catrin Howells Lloyd drwy e-bost catrinhlloyd@trywydd.co.uk gan gwblhau’r ffurflen gofrestru. Fe fydd sesiynau yn cael eu cynnal ledled Cymru a cheir yr amserlen gyflawn ar wefan y Comisiynydd: www.comisiynyddygymraeg.org 

Share This Event

  • This event has passed.

Details

  • Date: 16th December 2013
  • Time:
    9:30 am - 4:30 pm
  • Event Category:

Venue

  • Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful CF47 8UB
  • Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful CF47 8UB + Google Map