Latest NewsUncategorized @cy

Wales Civil Society Forum on Brexit Newsletter 22 March 2019

Share this article

Cylchlythyr / Newsletter

Wales Civil Society Forum logo

 

 


 

 

big ben

 

Diweddariad Brexit

Beth ddigwyddodd yr wythnos hon!?

Mae pethau wedi symud yn gyflym yng Ngwlad y Brexit yn ystod yr wythnosau diwethaf, felly dyma grynodeb cyflym. Ar ddiwedd ein diweddariad Brexit diwethaf roeddem yn rhagdybio y byddai trydedd bleidlais ystyrlon yn cael ei gynnal yr wythnos hon. Y rhagolygon oedd:

  • Pe bai’r bleidlais yn llwyddo, byddai Theresa May yn gofyn am estyniad hyd at Fehefin 30
  • Pe na bai’n llwyddo, byddai hi’n gofyn am estyniad hir iawn.

Mae hwn heb ddigwydd oherwydd i Lefarydd y Tŷ  reoli na allai Llywodraeth y DG gyflwyno’r un blediais eto, gan gychwyn ar gwestiynau ynglŷn â pha beth fyddai gwahaniaeth sylweddol yn ymdebygu iddo.

Felly, y cwestiwn mawr a gafwyd yr wythnos hon oedd pa fath o estyniad fydd y DG yn gofyn amdani ac yn ei gael gan yr UE. Gweler y ’Briffio gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin am fwy o wybodaeth ynglŷn ag estyniadau.

Yn dilyn twrw yn y Cabinet, cafwyd rhywfaint o dro pedol gan Theresa May, wrth iddi wrthod y syniad o estyniad hir yn llwyr gab anelu at Fehefin 30 yn lle hynny. Gweler Blog y Sefydliad Dros Lywodraethynglŷn â pham fod estyniad am gyfnod hir yn dal i fod yn berthnasol.

Pam fod estyniad i Fehefin 30 yn anodd?

Byddai’n heriol iawn yn gyfreithiol oherwydd y llinellau terfyn sydd yn amgylchynu’r etholiadau Ewropeaidd. Y rheswm am hyn yw bod yn rhaid i Senedd Ewrop gadarnhau’r Cytundeb Gadael ac mai’r llinell derfyn olaf o fewn y tymor cyfredol hwn yw Ebrill 18.

Os na chaiff y cytundeb yma ei basio o fewn Tŷ’r Cyffredin a bod y llinell derfyn yn mynd heibio, bydd yn das gar gyfer y Senedd Ewropeaidd newydd sydd yn eistedd ar Orffennaf 2. Os oes galw am gadarnhau hwn o hyd (ac felly bod y DG yn parhau yn dechnegol i fod yn rhan o’r UE) – rhaid iddi gael Aelodau Seneddol Ewropeaidd newydd yn gyfreithiol.
Golyga hyn fod angen i’r DG gynnal etholiadau ASE erbyn Mai 23, a rhaid cyflwyno’r ddeddfwriaeth i gychwyn y broses honno erbyn Ebrill 11.

Er hynny, rhaid bod Theresa May ychydig yn fyddar i bryderon yr UE pan ysgrifennodd hithau at Donald Tusk gan ofyn iddo am estyniad hyd at Fehefin 30.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae’r UE wedi bod yn rhesymegol iawn wrth gymryd y camau canlynol:

  • Cytuno i roi estyniad i’r DG hyd at Fai 22 sydd yn amodol ar basio’r Cytundeb Gadael mewn pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin cyn bo hir iawn.
  • Estyniad ‘rhag-ofn’ hyd at Ebrill 12 os na chaiff y cytundeb ei basio (sydd eto’n rhesymegol o ystyried yr angen i gyflwyno deddfwriaeth ddomestig ar gyfer yr etholiadau erbyn Ebrill 11).

Bydd yr wythnos nesa’n un prysur arall!

  • Bydd ên holl lygaid ar Dŷ’r Cyffredin ar Ddydd Llun Mawrth 25 pam fydd Llywodraeth y DG yn cynnig ei ‘gamau nesaf’ unwaith eto a bydd gan Aelodau Seneddol y cyfle i awgrymu a phleidleisio ar welliannau. 
  • Gallwn weld Pleidlais Ystyrlon 3 cyn bo hir (gall Senedd y DG newid y rheolau a dod â’r un bleidlais o flaen y tŷ  eto os dymuna, er gwaetha datganiad y Llefarydd). 
  • Os bydd y bleidlais yma’n llwyddiannus yna bydd y DG yn gadael erbyn Mai 22. 
  • Os fydd y Cytundeb Gadael yn methu am y trydydd tro, maer UE wedi rhoi hyd at Ebrill 12 i’r DG benderfynu os yw am gymryd rhan yn etholiadau’r Aelodau Seneddol Ewropeaidd…
  1. Os yw’r DG yn cymryd rhan – byddwn yn gweld cais am estyniad hirach, er bydd hyn yn gofyn am gynllun gan Lywodraeth y DG sydd yn amlinellu’r ffordd ymlaen ac sydd yn ddigonol ym marn yr UE i gyfiawnhau’r estyniad.
  2. Os na fydd y DG yn cymryd rhan, bydd yn gadael heb gytundeb.

 

 

Brexit Update

What happened this week!?

Things have moved very quickly in Brexitland these last couple of weeks, so here is a quick recap. At the end of our last Brexit Update – we were anticipating a 3rd Meaningful vote this week. It was looking like:

  • if that vote was successful Theresa May would ask for an extension to June 30
  • if it was not she would seek a long extension.

This hasn’t happened because the Speaker ruled that the UK Government cannot bring substantially the same vote again, triggering questions around what a substantial difference might look like.

Therefore, the big question this week has been what sort of extension the UK will ask for and get from the EU. See this Commons Library briefing for more information on extensions.

After an uproar in the Cabinet, Theresa May performed something of a U-turn, rejecting the idea of a long extension completely and aiming instead for 30 June. See this Institute for Government blog on why a long extension is still relevant.

Why is an extension to 30 June difficult?

It would be legally challenging because of the deadlines surrounding the MEP elections. The reason for this is that the EU Parliament must ratify the Withdrawal Agreement and the last deadline for this within the current Parliament is 18 April.

If the agreement hasn’t passed in the Commons and this deadline is missed, it will be a task for the new European Parliament which only sits on 2 July. If at that point ratification is still required (and therefore the UK is still technically in the EU) – it legally must have new MEPs.

This means that the UK needs to hold MEP elections by 23 May, and the legislation to kickstart that process must be introduced by 11 April.
Nevertheless, somewhat deaf to the concerns of the EU, Theresa May wrote to Donald Tusk requesting an extension to 30 June.

What happens next?

Quite logically the EU has:

  • Granted an extension to 22 May which is contingent on the Withdrawal Agreement passing a Commons vote relatively soon.
  • A fall-back extension to 12 April if the withdrawal agreement has not passed (which is logical given the need to introduce domestic legislation for the elections by 11 April).

Next week will be another busy one!

  • All eyes will be on the House of Commons on Monday 25 March when the UK Government will yet again put forward its ‘next steps’ and MP’s will be able to suggest and vote on amendments. 
  • We may see a MV3 soon (the UK Parliament can change the rules and bring the same vote again if it wishes, despite the Speaker’s statement). 
  • If this vote is successful, the UK will leave by 22 May. 
  • If the withdrawal agreement fails to pass a third time, the EU has granted the UK until 12 April to decide whether to participate in the MEP elections…
  1. If the UK does participate – we will see a longer extension requested, though this will require the UK Government to set out a plan for the way forward that the EU deems sufficient to warrant the extension. 
  2. If the UK does not participate, it will leave without an agreement.
 
 Green EU

Oes angen o hyd i ni baratoi am Brexit heb gytundeb?

Oes – oedd yr ateb cryf a gafwyd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn ystod Fforwm Holi ac Ateb yn nigwyddiad Gofod 3 y Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ar Fawrth 21. Awgrymodd y dylai elusennau roi gweithgareddau arferol i’r naill ochr a chynllunio am Brexit heb gytundeb. Gallwch wrando ar ei ddatganiad a thrafodaeth y panel Fforwm a gafwyd wedyn. Rydym wedi cyhoeddi canllaw hefyd ar gyfer sefydliadau Trydydd Sector i helpu cynllunio ar gyfer hwn (a deilliannau eraill) yma: English https://bit.ly/2IZACdA / Cymraeg https://bit.ly/2H87XBk

Mae’n debyg na fydd hyn yn digwydd ar Fawrth 29 (o ganlyniad i’r estyniad), ond allwn ni ddim diystyru’r posibilrwydd o adael heb gytundeb yn hwyrach.

Mae gadael heb gytundeb yn parhau i fod yn bosibilrwydd sy’n peri gofid. Nid yn unig fod Llywodraeth y DG ddim yn barod am Brexit heb gytundeb, ond mae hi’n amlwg nad yw nifer o fasnachwyr chwaith (fyddai’n golygu nifer o oblygiadau ar gyfer cymunedau ac yn cynyddu’r angen am wasanaethau).

Gweler y blog bost hyn ar broblemau sydd yn gysylltiedig â thollau yn y scenario hwn.

Roedd hi’n syndod pan wnaeth y CBI a’r TUC anfon ‘llythyr ar y cyd i’r Prif Weinidog‘ yn pwysleisio pwysigrwydd osgoi  Brexit heb gytundeb.

 

Do we still need to prepare for a no-deal Brexit?

The answer to this was a resounding yes by First Minister Mark Drakefordduring a Forum Q&A session at WCVA’s signature Gofod3 event on 21 March. He recommended charities put aside normal activities and plan for a no-deal Brexit. You can listen to his statement and the Forum panel discussion afterwards here. We have also published a guide for third sector organisations to help plan for this (and other) outcomes here: English / Cymraeg.

This likely won’t happen on 29 March (due to the extension), but we cannot discount leaving without an agreement later.

Leaving without an agreement remains highly worrying. Not only is UK Government not ready for a no-deal Brexit, but it is apparent that many traders are not either (which would come with ramifications for communities and increase the need for services). See this blog post on the problem of tariffs in this scenario.

Somewhat surprisingly, the CBI and TUC have sent a joint letter to the PMemphasising the importance of avoiding a no-deal Brexit.

 
 Calender image


Beth arall ddylwn i fod yn wyliadwrus ohono?

Mae Coram wedi ’cyhoeddi adroddiad ynglŷn â pheryglon y Cynllun Preswylion Sefydlog i  Ddinasyddion yr UE ar gyfer plant bregus, wedi iddo ganfod gall fod cymaint ag un plentyn allan o bob pump fod heb y ddogfennaeth angenrheidiol.
Mae’r WCVA wedi cyhoeddi gwelediad yn cofnodi’r Gweithlu Cyd-safio Ewropeaidd, sef Cynllun gan yr UE i hyrwyddo gwirfoddoli traws ffiniol a chyfleoedd gwaith i bobl ifanc, yma.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ei ymgynghoriad egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu yng Nghymru yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae grŵp o Aelodau Seneddol Ewropeaidd traws bleidiol wedi ysgrifennu at Donald Tusk yn gofyn am amser i ganiatáu i’r DG gael refferendwm cadarnhau.

Mae’r SNP, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd wedi rhyddhau datganiad ar y cyd yn galw am ddirymu erthygl 50 (a diddymu Brexit).


What else to put on your radar?

Coram have published a report on the dangers of the EU Settlement Scheme for vulnerable children, having found that one in five may not have the necessary documentation.

WCVA have published a webinar recording on the European Solidary Corps, an EU scheme to promote cross-border volunteering and working opportunities for young people, here.

The Welsh Government has launched its Environmental principles and governance in Wales post European Union exit consultation.
A cross-party group of MEP’s have written to Donald Tusk asking for time to allow the UK to have a confirmatory referendum.

The SNP, Plaid Cymru, Liberal Democrats and Green Party have released a joint statement calling, as a last resort, for the revocation of article 50 (cancelling Brexit).

Invitation to Focus Group on Disability Hate Crime
EU Citizens’ Rights Info Session – Cardiff

Join Our Community

C3SC’s Community Platform is a free virtual social network for residents of Cardiff to follow discussions on various social and or business topics, get support to run or start a project, Community Interest group or charity, find funding, share documents and photos, follow and meet new friends, find jobs and volunteering opportunities, find, rate and provide your feedback to us and other organisations.

Join Our
Community

noun Community 1852937

C3SC’s Community Platform is a free virtual social network for residents of Cardiff. Register now to share your views, contribute to your community and provide your feedback to us and other organisations.

Please note that C3SC cannot take responsibility for the information other organisations produce, for example, in their resources, and on their websites. The views of other organisations are not necessarily the views of C3SC.

You might also like:

Stay Connected

Instagram
YouTube
Fill out this field
Please enter a valid email address.
Fill out this field
Skip to content