Am C3SC

Un o’n blaenoriaethau yma yn C3SC yw sicrhau bod gennych chi’r wybodaeth ddiweddaraf am beth sy’n digwydd yn y trydydd sector yng Nghaerdydd, gan gynnwys cyfleoedd cyllido, digwyddiadau a hyfforddiant, a chefnogaeth arall – i’ch arfogi chi yn y gwaith hanfodol a wnewch.

Beth Rydyn ni’n ei Wneud

Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd yn bodoli i gefnogi a datblygu trydydd sector Caerdydd. Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a CGGC, rydym wedi ymroi i gynyddu gwybodaeth a sgiliau’r sector i sicrhau bod grwpiau a sefydliadau yng Nghaerdydd yn gallu gwneud eu hunain yn gynaliadwy a diwallu anghenion eu cymunedau.

Gallwn eich helpu gyda:

Sefydlu Grŵp Cymunedol
Cefnogaeth Arbenigol Un-i-un
Cyllid a Chynaliadwyedd
Hyfforddiant a Rhwydweithio

Gallwch lwytho taflen i lawr am C3SC a sut y gallwn helpu eich sefydliad chi yma (fersiwn y gellir ei hargraffu).

Skip to content