Find out about safeguarding good practice in a third sector context
For the english version, please scroll down
Amcanion
Rhoi cyflwyniad i ddiogelu a fydd yn cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth cyfranogwyr o’u cyfrifoldebau diogelu ac o ble i gael rhagor o wybodaeth.
Cynnwys
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod “Diogelu yn fater i bawb”, tra mae’r Comisiwn Elusennau wedi datgan bod “Diogelu yn flaenoriaeth lywodraethu allweddol” i elusennau. Dylai diogelu fod yn flaenoriaeth i bob mudiad yn y trydydd sector, yn enwedig y rheini sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl. Mae trefniadau diogelu da a phriodol yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd am eich mudiad ac yn cyfrannu at enw da’r trydydd sector yn gyffredinol.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs dylai cyfranogwyr allu:
Ystyried eu harfer diogelu i atal niwed, camdriniaeth neu esgeulustod i’r bobl yn eu mudiadau
Datblygu neu ddiwygio eu polisi diogelu
Deall y ddeddfwriaeth sy’n sail i ddiogelu yng Nghymru
Gwybod o ble i gael adnoddau diogelu ehangach
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn yn arbennig o addas i staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr mudiadau trydydd sector sydd am gynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ddiogelu. Gellir hefyd ei ddefnyddio i ddatblygu, diwygio a gweithredu polisi diogelu ac ehangu arfer da.
Y cwrs cywir ond yn y lleoliad neu iaith anghywir? Os gwelwch gwrs sy’n ennyn eich diddordeb yn y rhaglen hyfforddi hon neu rywle ar ein gwefan ond nid yw’n cael ei gynnal mewn lleoliad cyfleus neu byddai’n well gennych wneud y cwrs yn Gymraeg neu’n ddwyieithog yna mae croeso i chi gysylltu â ni. Os gallwch ddod o hyd i ddiddordeb yn y cwrs yn eich ardal yna gallwn ni ddod atoch chi a’ch helpu i’w hyrwyddo hefyd.
Hyfforddiant ac ymgynghoriaeth wedi’u teilwra
Gallwn ni ddod atoch chi! Mae modd cynnal pob un o’n cyrsiau yn arbennig i chi yn eich mudiad. Mae hyn yn aml yn rhatach gan ddibynnu ar y niferoedd. Mae cyrsiau Cymraeg a dwyieithog hefyd ar gael. Gallwn weithio gyda mudiadau ledled Cymru a Lloegr.
Cymryd Rhan
I weld manylion llawn y cwrs, gan gynnwys prisiau a faint o leoedd sydd ar gael, cliciwch ar ddyddiad y cwrs neu cysylltwch â’n Lein Gymorth 0300 111 0124 neu [email protected]
Ymunwch yn y sgwrs ar Twitter gan ddefnyddio #DysguWCVA
Aim
To give an introduction to safeguarding that will increase participants’ knowledge and understanding of their safeguarding responsibilities and where to find further information.
Content
Welsh Government has said that “Safeguarding is everyone’s business”, while the Charity Commission has stated that “Safeguarding is a key governance priority” for charities. Safeguarding should be a priority for all third sector organisations, and especially those that work with children, young people and adults at risk. Good and appropriate safeguarding provides public reassurance about your organisation and contributes to the positive reputation of the third sector in general.
Learning outcomes
By the end of the course participants should be able to:
Consider their safeguarding practice to prevent harm, abuse or neglect to the people in their organisations
Develop or revise their safeguarding policy
Understand the legislation that underpins safeguarding in Wales
Know where to find a wider range of safeguarding resources
Who this course is for
This course is particularly suitable for staff, volunteers and trustees of third sector organisations who want to increase their knowledge and understanding of safeguarding. It can also be used to develop, revise and implement safeguarding policy and extend good practice.
The right course but in the wrong location or language? If you see a course that interests you on this training programme or more widely on our website but it is not being delivered in a location convenient for you or you would rather it be delivered in Welsh or bilingually then please do get in touch. If you can find interest for the course in your area then we can come to you and help you to promote it too.
Bespoke training and consultancy
We can come to you! All our courses can be delivered to you in your own organisation and it often works out to be cheaper depending on numbers. Welsh and bilingual courses are also available.
Get involved
To view full course information including prices and places available, please click course date or contact our helpdesk on 0300 111 0124 or [email protected]
Get involved in the conversation on Twitter using #WCVALearning
Please note that C3SC cannot take responsibility for the information other organisations produce, for example, in their resources, and on their websites. The views of other organisations are not necessarily the views of C3SC.