Cardiff Local Nature Partnership (LNP) is developing a Local Nature Recovery Action Plan (NRAP), which will set out what needs to be done to restore and improve nature in Cardiff. This plan is for everybody in Cardiff and we would like to invite you to get involved in identifying the priorities and actions for the Plan.
To make sure it truly reflects local priorities, we are working with Catrin Evans Consultancy to run a series of workshops, drop-in events and an online survey over the coming months. The results of these activities will help shape the NRAP, the first draft of which will be completed in spring/summer 2024.
We will circulate the details of all events and activities in the next couple of weeks, but we are sharing the date of the first event now so you can book yourselves on.
Please also see attachments:
Poster Cardiff Action for Nature Events.pdf
Poster Gweithredu dros Natur Caerdydd.pdf
NRAP Development Introduction and Workshop: 2-4.30pm, 2nd November.
This event will be particularly relevant to you if you would like to help shape the actions to be taken to develop a nature-rich, ecologically connected Cardiff or are part of an organisation with an interest in nature and wildlife.
Please book via Eventbrite here.
Details to follow on:
- Drop in events at various locations throughout Cardiff. November to December. Dates and venues to be confirmed. Find out more about the Local Nature Partnership and the work we’re doing to create a nature-rich Cardiff; share your thoughts and ideas on what could be done throughout Cardiff to help nature thrive.
- Online survey. Opportunity to share your thoughts if you can’t get to any of our events, or even if you’d like to do both!
- NRAP Development Introduction and Workshop. Venue and date to be confirmed, week of 15th January 2024. As above and particularly if you’re not sure what this might involve or would just like to find out what this might mean for you or your organisation. Open to anyone with an interest in nature.
- Online workshop. Date to be confirmed, week of 15th January, 2024.
If you’d like to be added to the LNP mailing list (if you’re not already on there) to make sure you get notification of these up-and-coming events, you can contact the LNP directly on [email protected]
Many thanks
Catrin Evans
On behalf of Cardiff Local Nature Partnership
—————————————————————–
Annwyl bawb
Mae Partneriaeth Natur Lleol (PNL) Caerdydd yn datblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (CGANL), a fydd yn nodi’r hyn y mae angen i bawb ei wneud i adfer a gwella natur yng Nghaerdydd. Mae’r cynllun ar gyfer pawb yng Nghaerdydd, a hoffwn eich gwahodd chi i gymryd rhan i nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu’r Cynllun.
I sicrhau ei fod wir yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol, rydym yn gweithio â Catrin Evans Consultancy i gynnal cyfres o weithdai, sesiynau galw heibio ac arolwg ar-lein dros y misoedd nesaf. Bydd canlyniadau’r gweithgareddau hyn yn helpu i lywio’r NRAP, a bydd y drafft cyntaf yn gyflawn erbyn gwanwyn/haf 2024.
Byddwn yn rhannu manylion yr holl weithgareddau a’r digwyddiadau yn yr ychydig wythnosau nesaf, ond hoffem rannu dyddiad y digwyddiad cyntaf gyda chi nawr fel bod modd i chi gadw lle.
Cyflwyniad a Gweithdy Datblygu NRAP: 2-4.30pm, 2 Tachwedd.
Bydd y digwyddiad hwn yn enwedig o berthnasol i chi os hoffech helpu i lywio’r camau gweithredu ddylid eu rhoi ar waith i ddatblygu Caerdydd yn llawn natur sydd wedi cysylltu ag ecoleg, neu os ydych chi’n rhan o sefydliad sydd â diddordeb mewn natur a bywyd gwyllt.
Cadwch le drwy Eventbrite yma.
Manylion i ddilyn:
- Digwyddiadau galw heibio mewn lleoliadau amrywiol ledled Caerdydd. Rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Dyddiadau a lleoliadau i’w cadarnhau. Dysgwch fwy am y Bartneriaeth Natur Lleol, a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud i greu Caerdydd sy’n llawn natur; rhannwch eich meddyliau a’ch syniadau ar yr hyn ellid ei wneud ledled Caerdydd i helpu natur i ffynnu.
- Arolwg ar-lein. Cyfle i rannu eich barn os na allwch gyrraedd ein digwyddiadau, neu hyd yn oed, os hoffech wneud y ddau!
- Cyflwyniad a Gweithdy Datblygu CGANL. Lleoliad a dyddiad i’w gadarnhau, wythnos yn dechrau 15 Ionawr 2024. Fel yr uchod ac yn enwedig os nad ydych chi’n siŵr beth fydd hyn yn ei gynnwys, neu os hoffech ddysgu mwy beth all hyn ei olygu i chi neu eich sefydliad. Ar agor i unrhyw un â diddordeb mewn natur.
- Gweithdy ar-lein. Dyddiad i’w gadarnhau, wythnos yn dechrae 15 Ionawr 2024.
Os hoffech gael eich ychwanegu at restr bostio PNL (os nad ydych arni eisoes) i sicrhau eich bod yn cael gwybod am y digwyddiadau hyn sydd ar y gweill, gallwch gysylltu â’r LNP yn uniongyrchol ar [email protected]
Diolch yn fawr
Catrin Evans
Ar ran Partneriaeth Natur Lleol Caerdydd