Volunteers’ Week – 1st to 7th June 2020
Thank you to the thousands of volunteers that have given their time over the last twelve months to causes they care about and in response to the emergency situations that people have been faced with.
Every year, there is a special week earmarked to thank volunteers for all that they bring to their local communities, and this year, Volunteers’ Week, feels more important than ever. The national week runs from the 1 – 7 June and WCVA, alongside our CVC partners are providing resources and ideas to help organisations that involve volunteers to say thank you. We recognise that the organisations that typically join in with this campaign may be facing difficult times and that many volunteers may not be currently engaging in volunteering in the way they typically do. With this in mind, we have created a Volunteer’s Week campaign pack that enables you to say thank you in the way that best fits your organisation and volunteering circumstances. The volunteers that contributed before this crisis and the organisations that supported them along the way both deserve a big thank you.
Please join us as we say thank you. If you have stories / news you would like WCVA to cover as part of our national coverage please let us know. Otherwise, use the #VolunteersWeek and #WythnosGwirfoddolwyr and we will keep an eye out for your content on social media.
Bob blwyddyn, mae wythnos arbennig wedi’i chlustnodi i ddiolch i wirfoddolwyr am bopeth maen nhw’n ei wneud yn eu cymunedau lleol, ac eleni, mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn teimlo’n bwysicach nag erioed. Bydd yr wythnos genedlaethol yn cael ei chynnal rhwng 1 a 7 Mehefin a bydd CGGC, ynghyd â’n partneriaid yn y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, yn darparu adnoddau a syniadau er mwyn helpu mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr i ddweud diolch.
Rydym ni’n cydnabod y gall y mudiadau sydd fel arfer yn ymuno â’r ymgyrch hon fod yn wynebu cyfnod anodd ar hyn o bryd, ac efallai nad yw llawer o wirfoddolwyr yn gwirfoddoli yn yr un modd ag arfer. Gan gadw hynny mewn cof, rydym ni wedi creu pecyn ar gyfer ymgyrch Wythnos Gwirfoddolwyr sy’n eich galluogi chi i ddweud diolch mewn ffordd sy’n addas i’ch mudiad chi a’ch amgylchiadau chi o ran gwirfoddoli. Mae’r gwirfoddolwyr oedd yn cyfrannu cyn yr argyfwng hwn a’r mudiadau sydd wedi’u cefnogi ar hyd y ffordd yn haeddu diolch enfawr.
Ymunwch â ni, os gwelwch yn dda, wrth i ni ddweud diolch. Os oes gennych straeon/ newyddion yr hoffech i CGGC roi sylw iddynt fel rhan o’n hymgyrch gyhoeddusrwydd genedlaethol rhowch wybod i ni erbyn 22ain o Fai, os gwelwch yn dda. Fel arall, defnyddiwch yr #WythnosGwirfoddolwyr a #VolunteersWeek ac fe gadwn ni lygad am eich cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.